Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr Cyfrifiadura o'r Coleg i dderbyn Doethuriaeth

Bydd cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo a wrthododd i adael Syndrom Asperger ei rwystro rhag llwyddo, yn derbyn PhD yn fuan a chael y fraint o ddefnyddio'r teitl 'Dr'.

Llwyddodd y darpar Dr Ryan Ward i amddiffyn ei draethawd ymchwil yn llwyddiannus yn ddiweddar a bydd yn derbyn PhD mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig o Brifysgol Lerpwl yn fuan. Bydd yn parhau i weithio yn y Brifysgol mewn rôl ymchwil ôl-ddoethurol fel peiriannydd prosiect.

Gadawodd Ryan, sy'n ei ugeiniau a'i deulu yn byw ym Mochdre, Goleg Llandrillo yn 2014 ar ôl llwyddo i ennill D*D*D* yn ei Ddiploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn TG. Aeth yn ei flaen i Brifysgol Bangor gan raddio yn 2018 â Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifiadureg. Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, enillodd Wobr Dr Jan Abas, ac roedd hefyd yn ail yng Ngwobr Dr Robert Jones am y cyflawniad academaidd cyffredinol gorau ledled y Brifysgol gyfan.

Wedi hynny, sicrhaodd leoliad PhD am bedair blynedd ym Mhrifysgol Lerpwl i ymchwilio realiti rhithwir, synaesthesia a rhyngwynebau peiriant dynol yn ei Hadran Seicoleg Wybyddol a Pheirianneg Drydanol ac Electroneg.

Yn ddiweddar amddiffynnodd ei draethawd ymchwil yn llwyddiannus mewn arholiad Viva terfynol ar gyfer PhD mewn Peirianneg Drydanol ac Electroneg, a bydd derbyn doethuriaeth yn fuan a chael teitl anrhydeddus 'Dr'.

Mae Ryan – y mae ei dad Patrick yn gweithio yn yr adran Chwaraeon ar gampws y Coleg yn Llandrillo-yn-Rhos – wedi cyflwyno cais am batent ac mae wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd amrywiol droeon o weithiau dros y pedair blynedd diwethaf, gan gynnwys y cyfnodolyn mawreddog “Nature” yn 2020 Cyflwynodd un o'i bapurau yn ddiweddar yng Nghynhadledd 2022 yr IMRF yn Ulm, yr Almaen.

Cofrestrodd yng Ngholeg Llandrillo yn wreiddiol ar ôl iddo dreulio blwyddyn yn chweched dosbarth ei gyn-ysgol, gan nad oedd yr amgylchedd ddysgu yn addas i'w anghenion. Ar ôl ymuno â'r coleg, darganfu'n fuan fod ganddo ddawn eithriadol at godio cyfrifiadurol ac mae'r gweddill, fel y dywedant, yn hanes.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Cyfrifiadura, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk