Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr Gradd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Gwireddu Breuddwyd drwy agor Meithrinfa Plant

Yn ddiweddar, gwnaeth Daloni Owen, cyn-fyfyriwr Gradd Iechyd a Gofal Cymdeithasol o Goleg Meirion-Dwyfor agor meithrinfa i blant.

Mae Daloni wedi agor 'Meithrinfa Enfys Fach' ym Mhorthmadog, ei thref enedigol, lle cynigir gofal drwy'r dydd i blant rhwng 2 fis oed a 7 oed. Mae tîm o saith yn gweithio gyda hi yn y Feithrinfa, sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy gydol y flwyddyn.

Cwblhaodd Daloni ei hastudiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau yn 2016, gan yna symud ymlaen i astudio Gradd Sylfaen (FdA) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Yna, dechreuodd ei chwrs gradd BA (Anrh) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cyn cael ei merch yn ystod ail flwyddyn y cwrs.

Yn dilyn genedigaeth ei merch a graddio’n llwyddiannus o’i Gradd Israddedig, penderfynodd Daloni ohirio ei hastudiaethau ôl-raddedig, a bu’n gweithio i linell gymorth ‘Byw Heb Ofn’ – llinell gymorth trais domestig i fenywod, plant a dynion.

Bu Daloni hefyd yn gweithio i Cariad Care Homes dros gyfnod o naw mlynedd, ar ôl dechrau fel gwirfoddolwr yn ystod ei hastudiaethau Lefel 3 yn y Coleg.

Meddai Daloni,

“Pan oeddwn i’n feichiog gyda fy merch, roedd y syniad o agor meithrinfa yn rhywbeth roeddwn i’n meddwl amdano’n eithaf aml. Mi lwyddais i wireddu'r freuddwyd yn llawer cynt na'r disgwyl ar ôl i feithrinfa fy merch gau a’m gadael mewn sefyllfa anodd lle'r oedd rhaid i mi gymryd saib o'm cwrs meistr oherwydd diffyg gofal plant yn yr ardal. O fewn ychydig fisoedd, daeth y cynllun busnes roeddwn wedi'i wneud tra'n feichiog dair blynedd ynghynt yn realiti yn eithaf sydyn! Ar ôl ychydig o fisoedd o waith caled, agorodd Meithrinfa Enfys Fach Cyf ym mis Awst 2023."

Cyfoethogwyd taith Daloni gan ei phrofiad yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, lle gwnaeth feithrin sawl cyfeillgarwch parhaol a chwrdd â thiwtoriaid dylanwadol a luniodd ei phersbectif o fewn y sector gofal. Rhoddodd ei haddysg yn y Coleg sylfaen gadarn iddi o ran deall polisïau, y dirwedd gyfreithiol yn y diwydiant gofal, pwysigrwydd trin unigolion ag urddas a pharch ym mhob cyfnod o fywyd, a datblygiad unigolion trwy wahanol gyfnodau bywyd.

Wrth fyfyrio ar ei chyfnod yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, ychwanegodd Daloni, “Roedd y gefnogaeth ges i drwy gydol fy amser yno gan y tiwtoriaid yn well nag y gallwn i fod wedi gofyn amdano. Wrth edrych yn ôl ar fy amser fel myfyriwr, fyddwn i ddim yn newid dim byd. Gwnes i ffrindiau oes ac atgofion melys yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, a llwyddais i agor busnes diolch i’r hyn a ddysgais yn y Coleg, yn ogystal â’r profiadau amhrisiadwy a gefais yn y sector gofal.”

I gael rhagor o wybodaeth am Feithrinfa Enfys Fach, anfonwch e-bost enfysfach@gmail.com neu ewch i'r dudalen Facebook, ⁠yma.

I ddysgu rhagor am y cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ⁠cliciwch yma.