Myfyriwr Teithio a Thwristiaeth yn Ennill Ysgoloriaeth werth £100,000
Mae myfyriwr Teithio a Thwristiaeth ar gampws Coleg Menai ym Mangor newydd ennill ysgoloriaeth werth £100,000 i astudio ar gyfer gradd ym maes Gwyddoniaeth Forol mewn Prifysgol yn Southampton.
Mae Stephanie Humphreys yn paratoi i adael Caergybi a dechrau bywyd newydd yn Southampton ddiwedd mis Awst cyn dechrau'r cwrs ym mis Medi. Bydd y cwrs yn dysgu Stephanie sut i fod yn Swyddog Byrddau Llong a bydd yn cynnwys sesiynau tiwtorial ar sut i hwylio a rheoli llong yn ogystal â sgiliau bywyd allweddol megis cymorth cyntaf.
Dywedodd Stephanie: "Mae cael cynnig yr ysgoloriaeth hon yn wych. Dydw i ddim wedi dod dros y sioc eto a dydw i ddim yn meddwl y gwna' i nes y bydda' i wedi symud i Southampton. Dw i wedi gwirioni o gael y cyfle hwn ac yn gwenu fel giât wrth feddwl am y peth."
Mae Stephanie wastad wedi bod â diddordeb mewn bywyd ar y môr: mae hi wedi gweithio ar fordeithiau Seacoast Safari ym Miwmares ac yn y dociau yng Nghaergybi. Y llynedd, cafodd ddeg diwrnod o brofiad gwaith ar y môr a chael y cyfle i hwylio'r llong hanner ffordd drwy'r fordaith!
Stephanie yw'r myfyrwraig/myfyriwr cyntaf o gwrs Teithio a Thwristiaeth Coleg Menai i ennill yr ysgoloriaeth hon. Ychwanegodd: "Dw i wir wedi mwynhau fy amser ar y cwrs yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. "Dw i wedi dysgu llawer o bethau a dw i'n siŵr y bydd yn fy helpu yn fy ngyrfa a fy mywyd yn gyffredinol yn y dyfodol. Mae'r tair athrawes (Sharon Jones, Hilary Jones, Cath Skipp) wedi bod yn wych ac wedi fy helpu i sicrhau lle mewn prifysgol. Mi fydda' i wastad yn ddiolchgar am hynny."
Yn dilyn y cwrs tair blynedd yn Southampton mae Stephanie yn gobeithio cael gwaith gyda thîm byrddau llong y Royal Carribean ryw ddiwrnod.
Ychwanegodd: "Dw i wedi bod yn breuddwydio am weithio gyda chwmni Royal Caribbean am amser hir. Dw i'n cofio mynd ar fordaith yn 2009 o amgylch ardal Môr y Canoldir. Roedd y staff yn anhygoel ac yn gyfeillgar iawn ac roedd yr amgylchedd gwaith i weld yn wych. Royal Caribbean sydd berchen ar bum llong fordaith fwyaf y byd ac mi fyswn i wrth fy modd yn gweithio ar un o'r llongau hynny rhyw ddiwrnod".
Dywedodd Sharon Jones, arweinydd rhaglen y coleg ar gyfer Teithio a Thwristiaeth: "Mae Stephanie wedi bod yn fyfyrwraig ardderchog drwy gydol y ddwy flynedd: yn ddibynadwy iawn, yn gwrtais, yn gweithio'n galed ac yn awyddus iawn i lwyddo. Mae hi wedi gweithio’n galed iawn i ennill ei lle haeddiannol gyda Clyde Marine Training".
Dyma neges Stephanie i unrhyw ddynes sy'n dymuno cael gyrfa ar y môr: "Peidiwch â rhoi'r gorau iddi a gafaelwch yn dynn yn eich breuddwyd. Os bydd unrhyw un yn eich tynnu i lawr, dangoswch eich bod yn barod i frwydro a chodi".
I gael gwybod rhagor am y cyrsiau Teithio a Thwristiaeth rydym yn eu cynnig yn y coleg cliciwch yma