Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dros 5 mil yn ymweld a marci Coleg Glynllifon yn ystod Gŵyl Fwyd Caernarfon

Ar ddydd Sadwrn, Mai 14, daeth ychydig dros 5 mil i ymweld â Marci Coleg Glynllifon yn Ŵyl Fwyd Caernarfon, y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal mewn dwy flynedd.

Yn ystod y dydd, mi gafodd y cyhoedd gyfle i brofi gwaith a gweithgareddau sydd gan y coleg i’w gynnig, oedd yn cynnwys, creu bocsys adar gyda rhai o staff yr adran goedwigaeth, dysgu am anifeiliaid bychain y coleg gyda staff o’r adran gofal am anifeiliaid bychan a dysgu am rhai o anifeiliaid y fferm, oedd yn cynnwys Defaid Charmoise, Defaid Llyn, Geifr a Moch bach.

Uchafbwynt y diwrnod i lawer oedd y sioe cneifio, a gynhaliwyd drwy gydol y dydd gan aelodau staff y Coleg Ifan Jones ac Elfed Jackson.

Mae Ifan yn gneifiwr proffesiynol, sydd wedi gweithio ar draws y byd, ac yn gallu cneifio hyd at 300 o ddefaid pob dydd.

Mae Elfed ar y llaw arall yn aelod o dim cneifio traddodiadol Cymru ers 11 mlynedd, ac mae o'n cael ei gydnabod fel un o'r cneifwyr traddodiadol gorau yn yr holl fyd.

Dywedodd Rhodri Manod Owen, Rheolwr Fferm Glynllifon.

“Mi oedd cael dod yn ôl i’r Ŵyl Fwyd am y tro cyntaf mewn dwy flynedd yn brofiad gwych, ac mi roedd hi’n braf iawn cael croesawu’r cyhoedd i ddysgu am ein gwaith yn y coleg.”

Ychwanegodd

“Heb amheuaeth un o uchafbwyntiau’r dydd oedd sioe gneifio Ifan ac Elfed, y ddau yn weithwyr yma yn y coleg, ac yn arbenigwyr yn eu maes. Diolch i bawb am alw draw i’n gweld ni ar y dydd, a chofiwch fod gennym ddiwrnod agored ar ddydd Sadwrn. Mehefin 11 yn y coleg.”