Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Seremoni i Ddyfarnu Tystysgrifau i Brentisiaid sydd wedi Cwblhau Rhan Gyntaf eu Cwrs ym maes Tyrbinau Gwynt

Derbyniodd rhai o brentisiaid diweddaraf Cymru ym maes technoleg tyrbinau gwynt eu tystysgrifau'n ddiweddar, ar ôl cwblhau'n llwyddiannus flwyddyn gyntaf eu hyfforddiant yn yr unig Ganolfan Hyfforddi ym maes Tyrbinau Gwynt yng Nghymru, sydd wedi'i lleoli ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Cwblhaodd y myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai ran academaidd eu rhaglen brentisiaeth dair blynedd yr haf diwethaf cyn ennill profiad ymarferol ar dyrbinau gwynt ar y môr – ffynhonnell fwyaf Cymru o ynni adnewyddadwy - gan weithio gyda'u darpar gyflogwyr mewn dau leoliad gwahanol. Rhaid oedd gohirio'r seremoni gyflwyno am chwe mis oherwydd Covid-19.

Yn 2020/2021, croesawodd y ganolfan hyfforddi wyth prentis o gwmni RWE Renewables: pedwar sydd wedi'u lleoli yn Triton Knoll yn Swydd Lincoln a phedwar o Fae Lerpwl. Wedi blwyddyn yn unig, maent wedi ennill Diploma Atodol Lefel 3 BTEC mewn Peirianneg a chymhwyster NVQ Lefel 2 C&G mewn Gwneud Gwaith Peirianneg.

Hanner ffordd drwy eu hail flwyddyn, maent yn awr yn dilyn cwrs Diploma C&G mewn Cynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt (Gwybodaeth Dechnegol) ac yn ychwanegu unedau i'r cymhwyster NVQ Lefel 2.

Yn dilyn llwyddiant y rhaglen brentisiaeth yn y coleg, y llynedd cyhoeddodd RWE Renewables y byddai 12 prentis arall o bob cwr o'r DU yn dechrau eu hyfforddiant yn y coleg.

Gan siarad yn y seremoni gyflwyno'r wythnos diwethaf, dywedodd rheolwr prentisiaethau RWE yn y DU, Craig O’Malley: “Mae cwblhau'r Fframwaith Lefel 2 yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y prentisiaid. Mae'n wych eu gweld yn gwneud cynnydd da yng Ngholeg Llandrillo, ac rydw i'n falch o gael y cyfle i gydnabod eu llwyddiant yn y seremoni heddiw.

"Rydw i'n edrych ymlaen at ddilyn eu gyrfaoedd dros y blynyddoedd nesaf wrth iddyn nhw sefydlu eu hunain fel technegwyr medrus ar ffermydd gwynt presennol RWE ac ar y rhai rydym wrthi'n eu datblygu."

Meddai hyfforddwr ac aseswr Coleg Llandrillo ym maes Tyrbinau Gwynt, Marc McDonough: "Rydym yn falch iawn o gael parhau i weithio mewn partneriaeth â RWE Renewables i hyfforddi pobl ifanc ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy hwn sy'n prysur dyfu. Mae gennym raglen brentisiaeth lwyddiannus ar gyfer ynni hydro, ynni gwynt ar y môr ac ynni gwynt ar y tir ac edrychwn ymlaen at weithio gyda RWE Renewables am lawer o flynyddoedd eto."

Dechreuodd y grŵp cyntaf o dechnegwyr dan hyfforddiant ym maes tyrbinau gwynt - a ddewiswyd o blith dros 660 ymgeisydd yn dilyn proses ddethol drwyadl a barodd sawl mis - eu hyfforddiant ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ym mis Medi 2012.

I gael rhagor o wybodaeth am y prentisiaethau ym maes Tyrbinau Gwynt a gynigir yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk