Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arddangosfa gwanwyn Myfyrwyr Celf Coleg Menai

Bydd myfyrwyr Celf Coleg Menai yn arddangos eu gwaith celf yn y Galeri, Caernarfon, fel rhan o brosiectau terfynol diwedd y flwyddyn academaidd.

Rhwng Ebrill 22 ac 27 Mai 2023 bydd yr arddangosfa yn rhoi lle canolog i waith y myfyrwyr sy'n seiliedig ar dref Caernarfon. Mae mynediad i'r arddangosfa yn rhad ac am ddim.

Mae myfyrwyr ail flwyddyn y cwrs BA mewn Celf Gain, a myfyrwyr sy'n dilyn Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio wedi defnyddio Tref Caernarfon a'r ardal gyfagos fel ysbrydoliaeth. Mae eu gwaith yn ceisio cyfleu harddwch ac amrywiaeth y tirlun lleol ynghyd â themâu cysyniadol, ac yn cynnwys elfennau o hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal.

Nod y prosiect ydy tynnu sylw at greadigrwydd celfyddydol a sgiliau technegol y myfyrwyr wrth iddynt lunio darnau yn unigol neu ar y cyd ag eraill. Mae'n cynnig cyfle i ddysgwyr weld sut beth ydy bywyd artist a chanfod eu hunaniaeth eu hunain yn y diwydiant.

Fel rhan o'r cwrs terfynol, mae myfyrwyr wedi bod yn gyfrifol am bob agwedd o'r arddangosfa, ac o'r gwaith trefnu. Maen nhw wedi bod yn gweithio ar hyrwyddo eu gwaith drwy gyfrif penodol ar Instagram sydd i'w weld yma.

Dywedodd Jane MacFarlan, Darlithydd Celf a Dylunio,

"Rydym wrth ein boddau bod y Galeri yn parhau i gefnogi ein myfyrwyr drwy gynnig y gofod fel lleoliad i'r arddangosfa. Maen nhw'n cael cyfle i ymestyn eu hunain yn greadigol a datblygu eu harferion proffesiynol.

"Er bod pob darn o waith yn seiliedig ar Gaernarfon, mae darnau'r myfyrwyr yn wahanol iawn i'w gilydd. Mae gan bob artist arddull unigryw, a'r gwaith yn amrywio o ddarluniau olew ac acrylig, ffotograffau, cerfluniau, gemwaith a thechnegau gwnïo. Mae'r arddangosfa'n un gyffroes iawn.

Ychwanegodd Maisey Lovatt, myfyriwr Celf Gain,

"Rydw i'n edrych ymlaen at osod fy ngwaith yn Galeri Caernarfon. Mae'n wych ein bod yn cael y cyfle yma i ddangos ein hymdrechion yn y stiwdio i'r cyhoedd."

Ychwanegodd Silvia Padolini, Myfyrwraig arall o'r cwrs Celf Gain,

"Rydw i'n ddiolchgar iawn i Galeri Caernarfon a'n tiwtoriaid Emrys Williams a Jane Parry am y cyfle i arddangos ein darnau gwaith. Rydym wedi mynd ati'n frwd gyda chryn ymdrech i'w cwblhau. Mae plymio i grombil hanes ac awyrgylch dinas Caernarfon a defnyddio'r emosiynau a ddaw yn sgil hynny i greu gwaith wedi bod yn hynod gyffroes.

I gloi meddai Ffion Evans o Dîm Creadigol, Galeri Caernarfon:

"Mae gan Goleg Menai enw da am ysbrydoli a datblygu pobl greadigol o safon uchel sy'n creu darnau arbennig o waith. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld gwaith newydd myfyrwyr Coleg Menai yn eu harddangosfa 'Cyfoes Menai Contemporary'. Mae Galeri yn falch iawn o barhau i gydweithio a chefnogi artistiaid y dyfodol."

Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau Celf a Dylunio, cliciwch yma.