Mae Campysau'r Coleg yn Paratoi ar gyfer Diwrnodau Hwyl Cymunedol Anferth
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn paratoi at groesawu cannoedd o bobl leol i'w Diwrnodau Hwyl Cymunedol ym mis Mai a Mehefin.
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn:
- Coleg Llandrillo - Campws Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Sadwrn 20 Mai, 11am - 3pm
- Coleg Menai - Campws Llangefni: Dydd Sadwrn 10 Mehefin, 10am - 2pm
- Coleg Meirion-Dwyfor - Campws Dolgellau: Dydd Sadwrn 17 Mehefin, 11am - 2pm
Bydd y digwyddiadau llawn hwyl yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu cyfan, gyda llu o brofiadau cyffrous a gweithdai - rhywbeth at ddant pawb! Mae’r digwyddiadau am ddim, yn agored i bawb, ac wedi’u hanelu at:
- Ddisgyblion ysgol
- Rhieni sydd am ymweld â'r campws i weld y cyfleusterau a siarad â'r staff
- Trigolion lleol sydd â diddordeb mewn gweld beth sydd gan y coleg a gwasanaethau lleol i'w gynnig
- Pobl sydd â diddordeb mewn cael gwaith neu ddechrau gyrfa newydd
- Ac yn olaf... teuluoedd sydd am gael diwrnod i'r brenin!
Ar y diwrnod, cewch roi cynnig ar lu o brofiadau cyffrous a chael eich temtio gan bob math o wahanol fwydydd blasus.
Bydd cyfle hefyd i siarad a chael cyngor gyrfâu gan gynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys y Gwasanaeth Tân, y Fyddin a llawer o gwmnïau lleol eraill.
Felly, ewch draw i'n Diwrnodau Hwyl Cymunedol – chewch chi ddim o'ch siomi!