Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dau ar garlam i Bencampwriaethau Traws Gwlad yn Nottingham

Mae dau o fyfyrwyr Coleg Menai wedi cael eu dewis i gynrychioli Chwaraeon Colegau Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau (AoC) yn Nottingham dros y penwythnos.

Bydd Dion Griffiths, sy'n dilyn cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a Noa Vaughan sy'n dilyn cwrs Peirianneg, yn cystadlu yn nigwyddiad chwaraeon mwyaf Ewrop i fyfyrwyr. Roedd bron i 2,000 yn y gystadleuaeth y llynedd.

Cawsant eu dewis ar ôl gorffen ymhlith y pedwar rhedwr cyflymaf ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Ysgolion Cymru a gynhaliwyd yn Nhrefynwy ym mis Tachwedd 2022. Daeth Noa yn 2il yn y categori i redwyr o dan 17 oed a gorffennodd Dion yn 3ydd yn y ras i redwyr dan 20 oed.

Dywedodd Marc Lloyd Williams, Arweinydd Maes Rhaglen a Rheolwr Academi Coleg Menai:

'Bydd yn brofiad gwych i Dion a Noa, sydd wedi bod yn gweithio ac yn hyfforddi'n galed dros y misoedd diwethaf er mwyn paratoi ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae'n destun clod i'r ddau ohonyn nhw, ac yn destun balchder i Goleg Menai bod dau o'u myfyrwyr athletaidd yn cystadlu ar y lefel hon."

Mae Pencampwriaethau Cenedlaethol yr AoC yn dathlu chwaraeon cystadleuol mewn Colegau, ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddangos eu dawn a chystadlu yn erbyn myfyrwyr eraill.

Dywedodd Dean Hardman, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrofiad Myfyrwyr gyda'r AoC:

“Mae pencampwriaethau Cenedlaethol yr AoC yn uchafbwynt yng nghalendr chwaraeon mewn colegau. Mae'r colegau, eu staff a'u myfyrwyr wedi gweithio mor galed i ennill eu cystadlaethau rhanbarthol ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu pawb i Nottingham. Bydd cystadlu brwd yno ac, yn bwysicaf oll, bydd y myfyrwyr yn mwynhau'r profiad o fod mewn amgylchedd pencampwriaeth aml-chwaraeon a chystadlu yn erbyn y myfyrwyr athletaidd gorau o bob cwr o'r wlad.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: 2023 National Championships | Association of Colleges

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date