Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Coedwigaeth Glynllifon yn llwyddo yng nghystadleuaeth Lantra.

Mae Cai Roberts, o Lanfrothen wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn yng nghystadleuaeth Lantra yn ddiweddar.

Derbyniodd Cai sydd yn fyfyriwr ar ein cwrs Rheolaeth Cefn Gwlad a Choedwigaeth y wobr mewn seremoni fawreddog yng ngwesty’r Metrapol ar nos Iau, Chwefror 24. Mae'r gwobrau bellach yn eu 27ain blwyddyn.

Yn ystod y seremoni, diolchodd y Gweinidog Amaeth, Lesley Griffiths i'r darparwyr hyfforddiant diwydiannau'r tir a'r colegau gwledig yng Nghymru am eu gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd.

Dywedodd Cai Roberts, myfyriwr ar gwrs Rheolaeth Cefn Gwlad a Choedwigaeth.

“Wedi i mi adael yr ysgol, mi es i’n syth i weithio gyda fy nhad, ar gwch pysgota’r teulu, yn fy nhref enedigol, Nefyn. Wedi blynyddoedd o weithio ar y môr, mi benderfynais ddilyn trywydd gwahanol, a mynd i weithio i’r maes coedwigaeth. Yn eithaf buan, mi sylweddolais fod hwn yn faes sydd yn tyfu’n sydyn ac yn cynnig llwyth o gyfleoedd amrywiol mewn swyddi sy’n taflu cyflogau da iawn”

Ychwanegodd

“Dyna pam y penderfynais fynd ôl i addysg, er mwyn derbyn cymwysterau yn y maes. I fod yn hollol onest, tydi penderfynu mynd i goleg am y tro cyntaf, fel person yn ei ugeiniau hwyr ddim yn hawdd, ond mae popeth wedi gweithio allan yn grêt i mi. Mae’r gefnogaeth gan y coleg wedi bod yn anhygoel, dwi wedi dysgu llwyth, ac mi oedd derbyn y wobr yma gan Lantra’n goron ar y cyfan.”

Dywedodd Jeff Jones, Pennaeth Cwrs Rheolaeth Cefn Gwlad a Choedwigaeth yng Nglynllifon.

“Mae gweld llwyddiant Cai yng ngwobrau Lantra wirioneddol yn golygu llawer iawn i ni yn y coleg. Lantra ydi’r corff dyfarnu mwyaf cydnabyddedig yng Nghymru, mae’r cystadlu pob blwyddyn ar lefel eithriadol o uchel, lle mae hyn yn gosod llwyddiant Cai mewn cyd-destun.”

Ychwanegodd

“Mae Cai yn destament nad ydi hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa ac i ddarganfod llwybrau newydd mewn bywyd. Mae dewis Cai o fynd i astudio ac i weithio ym maes coedwigaeth yn un sydd yn mynd i dalu ar ei ganfed iddo yn y pen draw. Mae’r cyfleoedd sydd ar gael yn y maes hwn, nid yn unig yma yng Nghymru, o du hwnt yn eithriadol, ac yn cynnig swyddi sydd yn talu cyflog cychwynnol o £28,000 gan godi i £35,000 mewn ychydig o flynyddoedd, gyda rhai yn derbyn £60,000 y flwyddyn. Da iawn ti Cai, mae’r coleg yn falch iawn o dy lwyddiant.”

Os oes gen ti awydd i ddilyn cwrs tebyg yn y coleg, cofia gofrestru ar gyfer ein diwrnod agored sydd ymlaen yn y coleg ar ddydd Sadwrn Mawrth 26 YMA