Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai yn lansio Strategaeth Lles

Heddiw (7 Mawrth), mae Grŵp Llandrillo Menai yn lansio Strategaeth Lles Staff a Dysgwyr er mwyn sicrhau bod iechyd a lles yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd coleg

Heddiw (7 Mawrth), mae Grŵp Llandrillo Menai yn lansio Strategaeth Lles Staff a Dysgwyr er mwyn sicrhau bod iechyd a lles yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd coleg

Mae'r strategaeth yn adeiladu ar y gwasanaethau lles sydd gan y Grŵp yn barod, a gafodd eu graddio'n 'ardderchog' gan Estyn. Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â chynrychiolwyr yr undebau, staff a myfyrwyr ar draws campysau'r coleg.

Mae grwpiau llywio staff a dysgwyr wedi cael eu sefydlu er mwyn helpu i ddelifro'r Strategaeth. Gan ddefnyddio adborth o sawl ffynhonnell, yn cynnwys arolygon staff a dysgwyr, mae'r grwpiau llywio wedi datblygu cynlluniau gweithredu a fydd yn atgyfnerthu cynlluniau lles presennol y Grŵp.

Bydd cynrychiolwyr o'r undebau staff Unison, NEU, UCU ac UCAC, ynghyd ag Undeb y Myfyrwyr,

yn gweithio'n agos gyda'r Grŵp er mwyn sicrhau bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i wella pob agwedd ar les. Byddant hefyd yn chwarae rhan yn y grwpiau llywio er mwyn cyflawni a monitro llwyddiant.

Nod y Strategaeth Lles yw hyrwyddo amgylchedd a phrofiadau dysgu iach mewn modd holistaidd ar draws y Grŵp trwy roi lles dysgwyr a staff wrth graidd polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau.

Mae nifer o brosiectau llwyddiannus wedi'u sefydlu eisoes, yn cynnwys Hwb Lles GLLM a lansiwyd y llynedd, y rhaglen Llysgenhadon Actif, ymgyrch Urddas Mislif, cwnsela wyneb-yn-wyneb ac o bell, cefnogaeth mentoriaid, Calendr Lles GLLM a nifer o adnoddau a gwasanaethau eraill sydd ar gael i bob myfyriwr ac aelod o staff.

Meddai James Nelson, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Academaidd Grŵp Llandrillo Menai: "Rydym yn lansio ein Strategaeth Lles newydd mewn cyfnod lle mae lles meddyliol, corfforol, emosiynol a chymdeithasol yn bwysicach nag erioed o ganlyniad i bandemig Covid-19.

"Mae gennym brofiad helaeth o ddarparu cefnogaeth o'r radd flaenaf i unigolion. Trwy ddelifro'r Strategaeth hon, byddwn yn atgyfnerthu'r cyfleoedd a'r gefnogaeth sydd ar gael fel y gall ein staff a'n dysgwyr ddatblygu gwytnwch, mesurau hunan-ofal, a chyflawni eu potensial."

Ychwanegodd: "Rydym yn ymroddedig i greu amgylchedd gweithio a dysgu iach lle gall pawb yn ein cymuned ffynnu. I wneud hynny, rydym yn cydnabod ei bod yn hollbwysig gweithio ar draws y sefydliad er mwyn sicrhau'r gefnogaeth orau bosibl o ran iechyd a lles i staff a dysgwyr.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda dysgwyr, staff a'r gymuned ehangach i sicrhau ein bod yn cefnogi iechyd a lles ym mhopeth a wnawn."