Llwyddiant i fyfyrwyr ifanc ym Mhencampwriaeth Codi Pwysau Prydain
Mae myfyriwr ifanc o Goleg Llandrillo wedi ennill ei fedal gyntaf erioed ym Mhencampwriaeth Codi Pwysau Prydain, a hynny ar ôl dod i'r brig ar lefel Cymru gyfan.
Ar ôl rownd terfynol agos iawn a chwe chyfle i bob cystadleuydd godi pwysau, enillodd Thomas Roberts o Lan Conwy fedal efydd yn y categori o dan 17 oed ym Mhencampwriaeth Prydain a gynhaliwyd yn yr Army Foundation College, Harrogate, Sir Efrog.
Dyma bencampwriaeth Olympaidd genedlaethol i athletwyr hyd at 23 oed, ac mae'n cynnig cyfle i don newydd o godwyr pwysau cystadleuol wneud argraff ar lefel genedlaethol.
Mae Thomas yn gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Aberconwy, ac mae'n dilyn cwrs Cymhwyster Sylfaen ym maes Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.
Dechreuodd ei ddiddordeb yn y gamp ar ôl iddo fynd i ddigwyddiad codi pwysau yn yr ysgol pan oedd yn 13 oed. Mae'n mynd i Glwb Codi Pwysau Llandudno bum gwaith yr wythnos erbyn hyn, ac yn neilltuo dwy sesiwn yn benodol i baratoi ar gyfer cystadlaethau.
Dyma'r pumed gystadleuaeth yn unig i Thomas gystadlu ynddi, a'r gyntaf ar lefel Brydeinig. Cipiodd fedal aur mewn tair cystadleuaeth a medal arian mewn categori arall yn ystod pencampwriaethau Cymreig.
Dywedodd Thomas: "Rwyf wir yn falch i fod wedi ennill y fedal efydd ym mhencampwriaethau Prydain. Mae'r dynion enillodd fedalau aur ac arian wedi bod yn codi pwysau yn llawer hirach na fi ac mae ganddynt ragor o brofiad ar lefel genedlaethol. Ar hyn o bryd rydw i'n cydbwyso fy hyfforddi gyda'r cwrs yn y coleg ac mae'n mynd yn dda iawn."
Dywedodd y tiwtor Mark Harrison: "Rydym i gyd yn falch iawn o Thomas a'r hyn mae wedi'i gyflawni ar lefel genedlaethol. Mae'n dangos ymroddiad i'r gamp codi pwysau ac i'w astudiaethau."
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Adeiladu neu unrhyw gwrs arall yng Ngholeg Llandrillo, ewch i: www.gllm.ac.uk
ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338, neu anfonwch e-bost: enquiries.llandrillo@gllm.ac.uk