Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Codwyr ifanc yn cystadlu i greu'r gêm orau yng Ngholeg Meirion-Dwyfor

Mae myfyrwyr TG wedi bod yn cynnal Clybiau Codio ar safleoedd Ysgol Bro Idris drwy gydol y flwyddyn, gan arwain at gynnal y gystadleuaeth flynyddol ar gampws Dolgellau

Yn ddiweddar, ymdrechodd selogion rhaglennu cyfrifiadurol ifanc i greu'r gêm wreiddiol orau yng nghystadleuaeth flynyddol Code Club UK yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau.

Daeth 90 o ddysgwyr o safleoedd Ysgol Bro Idris yn Nolgellau, Dinas Mawddwy, Rhydymain, Friog and Llanelltyd ynghyd ar y campws yn Nolgellau ar gyfer y gystadleuaeth.

Fe'u cefnogwyd gan fyfyrwyr a staff o adran TG y coleg i gymryd rhan yn y gystadleuaeth - gyda phob un o'r enillwyr yn ennill tabled i fynd adref gyda nhw i ddatblygu eu sgiliau codio ymhellach.

Drwy gydol y flwyddyn academaidd, mae myfyrwyr Technoleg Gwybodaeth Lefel 3 wedi bod yn cynnal Clybiau Cod i 96 o blant Blwyddyn 5 a 6 ar safleoedd Ysgol Bro Idris - gan ddysgu sgiliau sylfaenol iddynt gan gynnwys sut i greu eu gemau a'u gweithgareddau hwyliog eu hunain.

Roedd y gystadleuaeth yn Nolgellau yn gyfle i'r plant brofi'r sgiliau roedden nhw wedi'u dysgu, trwy greu gêm gan ddefnyddio'r feddalwedd Scratch.

Roedd yn rhaid iddynt ystyried cefndiroedd, cymeriadau, synau, sut y byddai pwyntiau'n cael eu hennill neu eu colli, a sut i ennill y gêm - gyda gemau'n cael eu barnu ar greadigrwydd a gwreiddioldeb, hyfedredd technegol, y profiad chwarae a phrofiad y defnyddiwr.

Enillwyr y gystadleuaeth eleni oedd:

  • Cyntaf: Brandon ac Ollie (safle Dolgellau)
  • Ail: Prideaux a Macs (safle Llanelltyd)
  • Trydydd: Celyn (safle Friog)
  • Pedwerydd: Isaac (safle Friog)

Dywedodd Sioned William, Cydlynydd y Cwrs L2 a L3 mewn TGCh yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: “Mae Clybiau Codio yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau poblogaidd ac i feithrin diddordeb mewn codio o oedran ifanc, sy’n uchel ar yr agenda ar gyfer datblygiad mewn ysgolion cynradd.

“Hefyd, mae'r clybiau'n gyfle gwych i’n dysgwyr ddefnyddio eu sgiliau a gweithio gyda’r gymuned leol. Roedd rhan fwyaf o’n dysgwyr yn nerfus i ddechrau, ond ar ôl iddynt wneud y sesiwn gyntaf fe wnaethant fwynhau’n fawr roedd yn un o'u huchafbwyntiau ar y cwrs!”

Dywedodd y myfyriwr Lefel 3, Sam Stocks: “Mi wnes i fwynhau bod yn rhan o Glwb Codio eleni yn fawr iawn. Dysgodd y profiad lawer i mi am sut alla i helpu eraill, a pha mor angerddol y gall plant fod am bethau maen nhw'n eu mwynhau. Roedd hi’n wych gweld cymaint o blant yn mwynhau’r hyn roedden nhw’n ei wneud ac yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau ac yn y pen draw geisio ennill y gystadleuaeth.”

Dywedodd ei gyd-fyfyriwr, Harri Jones: “Roedd fy mhrofiad drwy gydol Clwb Codio yn gymysgedd o deimlo ychydig yn bryderus ar y dechrau i fod yn llawn hyder erbyn diwrnod y gystadleuaeth.

“Mi wnes i fwynhau’n fawr iawn a byddwn i’n ei wneud eto. Rydw i'n falch bod y plant wedi cael amser da. Mi wnes i fagu hyder a dysgu sgiliau gwaith tîm a fydd o gymorth i mi y tu allan i'r coleg hefyd.”

Ychwanegodd Pawel Lenort sydd hefyd yn fyfyriwr: “Mi wnes i wir fwynhau bod yn rhan o'r Clwb Codio eleni. Mae wedi bod yn brofiad gwych i mi ac wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus wrth godio, ac mi wnes i fwynhau helpu'r disgyblion gyda'u gemau. Roedd y gystadleuaeth yn her dda hefyd gan fod yn rhaid i mi helpu llawer o blant ar unwaith.”

Mae Code Club yn fenter genedlaethol a gefnogir gan y Raspberry Pi Foundation, sy'n hyrwyddo llythrennedd digidol a sgiliau o'r radd flaenaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Eu nod yw grymuso pobl ifanc i ddefnyddio technolegau cyfrifiadurol i siapio'r byd.

Hoffech chi weithio yn y sectorau cyfrifiadura, technoleg ddigidol neu ddatblygu gemau? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date