Lea i berfformio i gefnogwyr Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2025
Bydd y fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor yn chwarae gyda'r grŵp gwerin Cymreig TwmpDaith yn y Swistir, wrth i dîm Rhian Wilkinson gychwyn eu hymgyrch ym Mhencampwriaethau pêl-droed Ewrop i ferched
Mae myfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor, Lea Mererid Roberts, yn mynd i'r Swistir i chwarae mewn band o ferched a fydd yn cyfeilio i dîm pêl-droed merched Cymru wrth iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch yn Ewro 2025.
Bydd Lea, sy'n gerddor talentog yn chwarae gyda'r grŵp gwerin Cymreig TwmpDaith yn Lucerne, lle bydd tîm Rhian Wilkinson yn cychwyn eu twrnamaint yn erbyn yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn (5 Gorffennaf).
Bydd TwmpDaith yn perfformio mewn derbyniad arbennig i'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn y Swistir ddydd Gwener, ac yn ardal y cefnogwyr ar yr un diwrnod, cyn chwarae y tu allan i Stadiwm Allmend ddydd Sadwrn wrth i gefnogwyr gyrraedd ar gyfer y gêm hanesyddol.
Bydd y merched yn cael mwynhau'r bêl-droed hefyd, gan eu bod wedi cael tocynnau i wylio gêm yr Iseldiroedd - sef gêm gyntaf erioed merched Cymru mewn rowndiau terfynol twrnamaint mawr.
Tra yn Lucerne, bydd TwmpDaith hefyd yn chwarae mewn gig 'Women Making Music' ac amryw o ddigwyddiadau eraill yn y ddinas, gan godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth draddodiadol Cymru.
Mae'r daith i'r Swistir yn nodi dechrau haf prysur iawn i Lea, sy'n astudio Lefel A Cerddoriaeth, Cymraeg a Chymdeithaseg ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli.
Mae'r ferch 17 oed o Bwllheli yn canu'r piano, y clarinét a'r sacsoffon, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio tuag at Radd 8 yn y tri offeryn.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae hi wedi cael ei dewis i fod yn aelod o TwmpDaith, grŵp gwerin Cymreig a fydd yn chwarae mewn digwyddiadau diwylliannol mawr gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a Sesiwn Fawr Dolgellau, yn ogystal ag Ewro 2025.
Mae'r band yn cynnwys cerddorion a dawnswyr ifanc o bob cwr o Gymru, sydd wedi'u dwyn at ei gilydd drwy 'Brosiect WYTH', prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo dawnsio a cherddoriaeth draddodiadol Gymreig. Daw'r enw 'TwmpDaith' o'r geiriau Cymraeg twmpath (Ceilidh Cymraeg) a taith.
Fel rhan o'r prosiect, bydd Lea yn cael ei mentora drwy gydol yr haf gan y cerddorion Gwilym Bowen Rhys a Meinir Siencyn.
Mae hi hefyd yn aelod o'i band ei hun, Nod1, a fydd yn chwarae cyfres o gigs ledled Cymru yn ystod yr haf.
Ar ddiwedd yr haf, bydd Lea yn rhan o daith gyfnewid ddiwylliannol yr Urdd i'r Iwerddon, lle bydd yn ymweld â phrosiect cerddorol TG Lurgan i ddysgu am gerddoriaeth draddodiadol Iwerddon.
Ar ôl hynny, bydd hi'n mynd i ail flwyddyn ei chyrsiau Lefel A, ac ar ôl hynny mae hi'n gobeithio astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Bangor.
Y llynedd, derbyniodd Lea ysgoloriaeth o £500 gan Glwb Cerdd Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau. Roedd ganddi ran hanfodol yn y sioe Nadolig ar gampws Pwllheli hefyd, yn chwarae'r sacsoffon.
Yn ogystal â bod yn dalentog yn gerddorol, mae Lea yn awdur dawnus hefyd, a dyfarnwyd y wobr gyntaf iddi yng nghystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.
Dywedodd Lea: “Mae’r coleg wedi bod yn gefnogol iawn i mi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r addysg a'r cyfleoedd maen nhw'n eu cynnig yn wych. Mae'r gefnogaeth wrth ddilyn yr holl weithgareddau allgyrsiol yma wedi bod yn allweddol i fy llwyddiant.
“Mae adrannau Cerddoriaeth a Chymraeg Pwllheli wedi rhoi’r cyfle a'r hyder i mi ddilyn fy mreuddwydion.”
Mewn ymateb i'r cwestiwn am ba gyfle yr oedd hi fwyaf cyffrous yr haf hwn, dywedodd Lea: “Mae’n anodd iawn dewis pa un dw i'n edrych ymlaen ato fwyaf, ond dw i'n siŵr y bydd cael y cyfle i chwarae yn y Swistir yn ystod yr Ewros yn rhywbeth arbennig iawn.”
Dywedodd Fflur Rees Jones, pennaeth cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor: “Fel coleg rydym yn hynod falch o Lea a’r hyn y mae hi wedi'i gyflawni. Mae ei hymroddiad a'i chyflawniadau diweddar yn ysbrydoli, ac mae ei llwyddiant yn adlewyrchu'r gwaith caled y mae wedi'i fuddsoddi dros y blynyddoedd. Rydyn ni'n dymuno'r gorau i Lea ar gyfer y dyfodol."
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig mwy na 30 o gyrsiau Safon Uwch yn ein canolfannau Chweched Dosbarth yn Nolgellau, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl. Mae coleg yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd, rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac ennill mwy o annibyniaeth. Dysgwch ragor yma.