Myfyrwyr yn cael Blas o Gynhyrchu Proffesiynol ar Gyfer y Teledu
Bu myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau ym maes Celfyddydau Creadigol, Cyfryngau a Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Menai yn gweithio ochr yn ochr gyda chriw teledu proffesiynol.
Bu myfyrwyr yn treulio diwrnod yn stiwdio ac ar set cyfres deledu 'Rownd a Rownd', gan gefnogi'r ffilmio o olygfa bwrpasol.
Cynhaliwyd hefyd seminar a sesiynau mentora gan staff Rondo Media o flaen llaw er mwyn cefnogi dealltwriaeth y myfyrwyr o weithio ar set deledu broffesiynol, yn ogystal at ateb unrhyw gwestiynau.
Roedd y rolau y cafodd y myfyrwyr brofiad ohonynt yn amrywio o waith actio i fod yn dechnegwyr sain, gweithredwyr camerâu, cyfarwyddwyr, golygyddion, trydanwr ar set ac artistiaid coluro a thrin gwallt.
Dywedodd Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Menai, "Rydym yn ddiolchgar iawn i Rondo Media am roi'r cyfle gwych hwn i'n myfyrwyr."
Ychwanegodd, "Bydd y profiadau a gaiff ein myfyrwyr yn werthfawr tu hwnt, ac yn sicr o gymorth iddynt wrth fynd ati i chwilio am waith ar ôl gadael y coleg."
Dywedodd Cynhyrchydd Gweithredol Rownd a Rownd, Berwyn Rees: "Mae'r diwydiant teledu a ffilm yn ffynnu yng Nghymru. Os medrwn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr teledu a ffilm drwy'r bartneriaeth bwysig hon gyda Choleg Menai, mae'n llesol i'r gyfres, y cwmni a'r diwydiant teledu a ffilm ehangach yng ngogledd cymru."