Myfyrwyr Lefel A yn ymweld â Science Live yn Llundain.
Fe fu nifer o ddysgwyr Lefel A Cemeg, Bioleg a Seicoleg Safle Dolgellau a Phwllheli i Lundain yn ddiweddar i fynychu sioe "Science Live".
Mae “Science Live” yn ddigwyddiad sydd wedi ei gynllunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr Lefel A Bioleg, Cemeg neu Ffiseg, ac yn digwydd unwaith pob blwyddyn. Nod y digwyddiad ydi i annog trafodaeth gan rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw yn eu maes am y gwyddorau.
Dywedodd Catrin Angharad Roberts, Cydlynydd Lefel A a'r Fagloriaeth Gymraeg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
“Mae rhoi’r math yma o gyfleoedd i’n myfyrwyr yn rhan ganolog o waith Coleg Meirion-Dwyfor. Pob blwyddyn mae ein myfyrwyr Lefel A yn derbyn graddau, sydd gyda’r gorau drwy’r holl wlad, gyda nifer yn mynd ymlaen i rai o Brifysgolion mwyaf blaenllaw'r DU.”
“Mae cynnig cyfleoedd i fynd i weld rhai o arbenigwyr mwyaf yn eu meysydd yn sicr o fod yn ffactor wrth i ni geisio herio ein myfyrwyr i anelu am ragoriaeth academaidd”
Yn ystod y digwyddiad, cafodd y myfyrwyr gyfle i glywed gan Yr Athro Jonathan Van-Tam, Dirprwy Brif Swyddog Iechyd Lloegr. Daeth Yr Athro Van-Tam yn wyneb cyfarwydd i filoedd ohonom yn ystod y pandemig diweddar.
Yn ychwanegol, cafwyd y cyfle i wrando ar yr Athro Alice Roberts, sydd hefyd yn wyneb cyfarwydd iawn drwy eu gwaith yn cyflwyno rhaglenni teledu am hanes ac archeoleg.
I orffen, cafwyd sgwrs hynod o ddifyr gan y meddyg enwog, Yr Athro Robert Winston, sydd wedi gweithio’n fwy na neb arall, i weld rhaglenni am feddygaeth a gwyddoniaeth ar y cyfryngau torfol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.
Mae'r gwyddonwyr hyn i gyd wedi eu dewis yn ofalus am eu gallu i gyfathrebu â myfyrwyr yr oedran hwn mewn ffordd uniongyrchol a chyffrous.
Os hoffet ti ddysgu mwy am ddarpariaeth Lefel A yn y coleg, clicia ar y linc isod.