Tiwtor o Chweched y Rhyl yn Ennill Gwobr am Dorri Tir Newydd
Mae tiwtor arloesol o Goleg Llandrillo newydd ddychwelyd o Lundain ar ôl ennill gwobr ‘Teacher Trailblazer 2022’... yr unig enillydd o Gymru ac un o ddim ond dau enillydd o'r Deyrnas Unedig gyfan!
Sam Egelstaff yw arweinydd y maes rhaglen Saesneg a Chyfryngau yn Chweched a Rhyl ac mae i'r wobr a enillodd fri rhyngwladol. Fe'i cyflwynwyd iddi gan gynrychiolwyr o'r Poetry Society, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Foyle mewn seremoni fawreddog yn y Nation Theatre yn Llundain.
Cyflwynwyd y gwobrau addysgu rhyngwladol i'r enillwyr yn seremoni wobrwyo flynyddol ‘Foyle Young Poets of the Year’ a oedd wedi denu 13,500 o gerddi gan dros 6,600 o feirdd 11-17 oed o dros 100 o wledydd ledled y byd.
Daw Sam o Newcastle yn wreiddiol ac mae wedi bod yn gweithio ym maes addysg ers dros 20 mlynedd. Mae hi bob amser wedi dewis gweithio mawn ardaloedd difreintiedig er mwyn gallu gwneud mwy o wahaniaeth.
Meddai: “Roeddwn i wrth fy modd yn derbyn gwobr ‘Teacher Trailblazer 2022’ a bod yng nghwmni'r beirdd gwych oedd wedi ennill gwobrau yn y seremoni.
"Mae gweld pobl ifanc yn cael eu hysbrydoli gan farddoniaeth yn bleser pur. Weithiau mae yna deimlad o anobaith yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ac mae ysgrifennu creadigol yn bwysig er mwyn grymuso pobl ifanc. Mae barddoniaeth yn galluogi pobl ifanc i rannu emosiynau a mynegi eu hunain. Yn Chweched y Rhyl rydym yn falch o lwyddiant ein myfyrwyr mewn pob math o gystadlaethau."
Yn ogystal â'i gwaith llawn amser fel tiwtor Lefel A, mae Sam yn mynd i ysgolion lleol i ddysgu barddoniaeth mewn ardaloedd difreintiedig, ac yn gweithio gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a lefelau llythrennedd isel.
Mae Sam yn barddoni ei hun ac wedi cyhoeddi barddoniaeth chwe gwaith yn ystod y mis diwethaf, gan gynnwys yng ngŵyl farddoniaeth Cheltenham!
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lefel A yn Chweched Rhyl, Coleg Llandrillo, cysylltwch â'r Coleg ar 01745 354 797.
Gwefan: www.gllm.ac.uk
E-bost: rhyladmissions@gllm.ac.uk