Myfyriwr Coleg yn Disgleirio ymhlith Sêr y Byd Ffilm a Cherddoriaeth
Gwireddodd myfyriwr Celfyddydau Perfformio Coleg Llandrillo un o'i freuddwydion wedi iddo ennill rôl actio mewn cyfres ffilm ffug-ddogfen, gan rannu amser sgrin gyda sêr megis Y Fonesig Helen Mirren a Tom Jones!
Ymddangosodd Kyle Whifield, 31 oed o Fae Colwyn mewn pennod o'r gyfres boblogaidd "Documentary Now!" Mae'r bennod Tymor 4, "How They Throw Rocks" yn stori am arwr o dref fach yng Nghymru, ac fe'i ffilmiwyd yn gynharach eleni o gwmpas ardal Betws-y-Coed.
Ymunir â Kyle yn y gyfres gan y selebs o'r byd adloniant Y Fonesig Helen Mirren, Tom Jones, Trystan Gravelle a Sam Wilson i enwi ond ychydig. Mae'r "Documentary Now" a enillodd sawl gwobr yn gyfres deledu ffug-ddogfen a grewyd gan Fred Armisen, Bill Hader, Seth Meyers a Rhys Thomas. Fe'i cynhyrchir gan AMC/IFC ac fe'i dangoswyd yn yr UD yn wreiddiol, ond mae nawr yn cael ei ddarlledu ar Amazon Prime yn y DU.
Dywedodd Kyle: "Am amser anhygoel; roedd fel breuddwyd. Roeddwn i yn y coleg pan atebais alwad i gastio ar gyfer y gyfres. Roeddent eisiau fideo ohonof yn dweud ychydig linellau a chyfres o luniau o fy mhen. Wedi arhosiad llawn tensiwn, fe'm hysbyswyd i mi gael y rhan! Mi helpon nhw ni i gwblhau'r gwaith papur: cytundebau, dyddiadau ar gyfer ffilmio, taliadau ac ati.
"Roedd yn brofiad gwirioneddol werthfawr. Roedd pawb ar y set yn wych, treuliodd hyd yn oed y cyfarwyddwr amser yn fy nghynghori. Gan ein bod i gyd yn aros yn yr un Airbnb, roedd y cast wir yn agored, gan rannu awgrymiadau am y diwydiant gyda mi. Bu yn freuddwyd gennyf i fod yn actor ers plentyndod, byth ers i mi weld y ffilm "Home Alone".
"Hyfforddais yn y lle cyntaf i fod yn gogydd yng Ngholeg Llandrillo, ond actio dwi wir yn ei garu fwyaf, felly newidiais fy nghwrs coleg i Gelfyddydau Perfformio. Mae'r cwrs yn hollol anhygoel: mae'r tiwtoriaid yn wych; maent yn darparu'r modd i chi lwyddo."
Wedi gorffen ei gwrs coleg, mae Kyle yn mynd i astudio ar gyfer gradd mewn Cynhyrchu ar gyfer Teledu a Ffilmiau ym Mhrifysgol Salford. Wedi cwblhau hynny, mae Kyle yn cynllunio symud i'r UD i ddilyn ei freuddwyd ymhellach.
I gael rhagor o wybodaeth ar gyrsiau Celfyddydau Perfformio, neu unrhyw gyrsiau eraill yng Ngholeg Llandrillo cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y Coleg ar 01492 542 338.
Gwefan: www.gllm.ac.uk
E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk