Beicwyr y Coleg yn Goresgyn Tywydd Poeth a Stormydd i Gyrraedd Paris!
Mae dwsinau o staff Grŵp Llandrillo Menai - ynghyd â chyn-aelodau o staff a myfyrwyr - yn dathlu ar ôl cwblhau taith feicio 200 milltir o Lundain i Baris. Dros gyfnod o dri diwrnod, bu rhaid iddynt ymdrechu yn erbyn tywydd poeth iawn, stormydd a blinder difrifol... a'r cyfan er mwyn codi arian i elusennau.
Hyd yn hyn, mae'r 32 o feicwyr brwd wedi codi dros £21,000 ar gyfer ystod o elusennau, ac mae'r swm yn parhau i godi! Gohiriwyd yr her hir ddisgwyliedig am rai blynyddoedd oherwydd y pandemig: trefnwyd i'w chwblhau'n wreiddiol yn 2018. Roedd y beicwyr yn cynrychioli tri choleg y Grŵp - Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.
Cychwynnodd y grŵp dewr o Landrillo-yn-Rhos gan deithio i Lundain mewn bws (gydag ôl-gerbyd yn llawn beiciau ac offer angenrheidiol). Ar ôl cyrraedd, aethant i dynnu llun o'r holl griw o flaen Big Ben.
Gadawodd y beicwyr Lundain drannoeth am 6am gan feicio i Newheaven drwy draffig trwm ac mewn tywydd poeth iawn! Roedd rhai anafiadau cynnar ar y ffordd i'r arfordir, ond fe gyrhaeddodd pawb y fferi a gorffen y diwrnod yn Dieppe.
Roedd y diwrnod cyntaf o feicio yn Ffrainc yn cynnwys taith 70 milltir o Dieppe i Beauvais ar hyd hen drac rheilffordd - a oedd, diolch byth, wedi'i drawsnewid yn llwybr beicio - gan fynd heibio sawl hen orsaf reilffordd sydd wedi’u trawsnewid yn gaffis. Ar ôl cwblhau'r ail gymal, gorffwysodd y tîm yn Beauvais dros nos.
Daeth y daith i ben y diwrnod canlynol, wrth iddynt feicio o Beauvais i Baris. Cyrhaeddodd y beicwyr Dŵr Eiffel ac yna'r Champs Elysees - man gorffen y Tour de France - yng nghanol cyfres o stormydd mellt a tharanau ffyrnig. Dychwelodd y tîm i Ogledd Cymru drannoeth, gyda sawl aelod yn teimlo'n "yn gyffrous ond wedi blino'n lân”.
Disgrifiodd y trefnydd allweddol Eifion Owen y foment y cyrhaeddon nhw Baris: "Roedd cyrraedd Paris yn gyffrous iawn yn union fel ro'n i wedi'i rhagweld. Roedd curiad fy nghalon yn cynyddu wrth i’r holl safleoedd adnabyddus ddod i’r golwg yn araf bach gyda chipolygon o’r adeiladau eiconig yn eich pryfocio i mewn. Ro'n i'n wên o glust i glust wrth weld yr Arc de Triomphe. Mae'n llawer mwy na fyddwch yn ei ddisgwyl, ac mae'n rhaid i chi frwydro eich ffordd drwy'r ceir a'r bysus sy'n gwibio heibio er mwyn ei gyrraedd - yn bendant nid ar gyfer y gwangalon.
“Ar ôl cael cyfle i dynnu lluniau ohonom yn ‘codi’r beics i’r awyr’, aethom ar hyd Avenue des Champs Elysees i La Place de la Concorde, a thros yr Afon Seine tuag at Dŵr Eiffel.”
Crynhodd Tim Peel, Rheolwr Rhaglen Alwedigaethol Y Rhyl, ei deimladau hefyd: "Cefais gyfle i feddwl wrth i ni eistedd mewn bwyty bwyd brys ym Mharis. Roedd yn brofiad gwych ar y cyfan: cafodd sawl cyfeillgarwch newydd eu ffurfio a llwyddwyd i ailafael mewn hen rai. Codwyd arian y mae mawr ei angen ar gyfer nifer o elusennau gwerth chweil. Roedd y daith yn gyfle i feddwl a chwestiynu beth sy'n bosibl. Nid defnyddio'r gêr hawdd yw'r opsiwn gorau bob amser. Gwthia dy hun yn y gêr uchaf posibl tan mae dy goesau a dy ysgyfaint yn llosgi, ac yna gwthia dy hun yn galetach." Rhannodd Tim ddiweddariadau rheolaidd ar grŵp Facebook y staff gan bostio cyfweliadau byw a negeseuon.