Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn cyrraedd rownd derfynol y Deyrnas Unedig mewn cystadleuaeth gwallt bwysig

Cystadlodd Heather Wynne, Ceri Thomas a Leah Oldham yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol o flaen beirniaid a chynulleidfa fyw

Cyrhaeddodd tri o fyfyrwyr Coleg Llandrillo rownd derfynol y Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol.

Cafodd Heather Wynne, Ceri Thomas a Leah Oldham eu dewis o blith miloedd o ymgeiswyr ar draws y wlad i fod ymhlith y 54 yn y rownd derfynol.

Yn y rownd derfynol fyw yng Ngholeg Telford, fe wnaethon nhw steilio gwallt o flaen beirniaid sy'n arwain y diwydiant a chynulleidfa orlawn o deulu, ffrindiau a thiwtoriaid. Hyn i gyd tra dan chwyddwydr camerâu yn tynnu lluniau a fideo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd Heather yn cystadlu yn y gystadleuaeth thema boho Lefel 2, Ceri yn y thema boho Lefel 1, a Leah mewn gwaith barbwr Lefel 2 steil-y-stryd.

Mae Ceri, o Fae Penrhyn, yn astudio Trin Gwallt Lefel 1 ar gampws coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Dywedodd am y gystadleuaeth: “Roedd fy nerfau i'n rhacs a dweud y lleiaf! Dydw i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen felly roedd yn fedydd tân go iawn.

“Fe wnes i adnabod rhai o’r beirniaid hefyd, a oedd yn fy ngwneud yn eithaf nerfus. Yn ddiweddar roedd Lisa Farrall yn feirniad ar 'The Big Blow Out' ar Channel 4. Mae hi'n hyrwyddwr addysg gwallt gweadog enfawr, ac yn rhywun rydw i wedi'i ddilyn ar Instagram ers tro. Roeddwn i'n teimlo'n dipyn o seren pan ddaeth hi draw i gael sgwrs tra roedden ni'n gweithio.

“Roedd yn hollol anhygoel. Roedd hi'n dipyn o gamp cyrraedd y rownd derfynol hyd yn oed, ac yn brofiad na fydda i byth yn ei anghofio.”

Dywedodd Ceri fod cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth wedi cadarnhau ei hawydd i weithio ym maes trin gwallt ar ôl iddi gofrestru yn y coleg er mwyn newid ei gyrfa.

“Rydw i wedi dod i'r coleg fel myfyriwr aeddfed ar ôl digalonni gyda'r llwybr gyrfa a ddewisais,” meddai. “Cyrraedd rownd derfynol fy nghystadleuaeth trin gwallt gyntaf erioed oedd yr arwydd yr oeddwn ei angen i wybod fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir.”

Cafodd y myfyrwyr eu hannog i gymryd rhan yn y gystadleuaeth gan ddarlithwyr trin gwallt a barbwr Coleg Llandrillo yn ôl ym mis Rhagfyr. Cyflwynodd y myfyrwyr luniau o'u gwaith, a gwahoddwyd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer i gystadlu yn y rowndiau terfynol byw.

Mae Heather, o Hen Golwyn, yn rhedeg Harmony Wedding Hair ac yn astudio Trin Gwallt Lefel 2.

Meddai: “Roedd 54 o bobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn y rownd derfynol, felly roedd bod tri ohonom o goleg Llandrillo yn anhygoel.

“Roedd yn rhaid i ni gyd gystadlu mewn rowndiau terfynol byw, gyda slotiau amser hanner awr a chwe chystadleuydd ym mhob categori.

“Ro'n i'n nerfus iawn wrth gystadlu o flaen y gynulleidfa. Gallai’r cystadleuwyr fynd ag un model, dau wyliwr a thiwtor, felly roedd pedwar o bobl ar gyfer pob cystadleuydd, a oedd yn dipyn o bobl yn gwylio.”

Derbyniodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol wobrau gan noddwyr y gystadleuaeth L'Oréal Professionnel, Alan Howard, Denman Professional, Diva Pro, Wahl Professional, WIG, HTCI Platform, a VTCT.

Mi wnaethon nhw hefyd ennill aelodaeth blwyddyn o The Fellowship for British Hairdressing, sy'n cynnig addysg, mentora a digwyddiadau i helpu i ddatblygu'r diwydiant trin gwallt a barbwr.

Dywedodd Heather: “Wnaethon ni ddim ennill ein categorïau ond fe enillon ni lawer o wobrau am fod yn y rownd derfynol. Mi gawson ni fagiau nwyddau gwerth £300 yr un i ddod adref - mi ges i sychwr gwallt, clipiwr a nwyddau eraill a fydd yn ddefnyddiol iawn.

“Hefyd cafodd pawb dystysgrif a Chymrodoriaeth am 12 mis, felly mae gennym ni fynediad i’r ap lle gallwn ni ffrydio fideos ar steilio, lliwio, torri – popeth rydyn ni ei angen ar gyfer gwahanol frandiau.”

Dywedodd Ceri fod y darlithwyr coleg wedi bod o gymorth mawr, gan ychwanegu: “Roedd yr holl diwtoriaid yn gefnogol iawn ac yn siarad â ni am yr hyn oedd o'n blaenau.

“Fe wnaethon nhw roi amser i ni ymarfer ein steiliau cystadlu yn ystod gwersi, a chynnig cyngor ar sut i aros o fewn terfynau amser. Daeth dau o’r tiwtoriaid gyda ni a’n gyrru ni gyd i goleg Telford ac yn ôl. Ar ôl diwrnod hir yn y gystadleuaeth roedden nhw dal yn llawn positifrwydd!”

Ydych chi eisiau gweithio ym maes trin gwallt, barbwr neu therapi harddwch? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai