Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Wedi newid eich meddwl?

Mae'n anodd penderfynu beth i'w wneud ar ôl sefyll TGAU a bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd am y dewis hawsaf, sef aros yn yr ysgol. Ond, beth os ydych yn amau eich penderfyniad i fynd i'r chweched dosbarth erbyn hyn?

Ydych chi'n meddwl y dylech fod wedi dewis pynciau gwahanol? Neu wedi dewis cwrs mwy 'ymarferol' er mwyn dysgu crefft?

Beth bynnag sy'n pwyso ar eich meddwl, rydym yn deall bod penderfynu gwneud rhywbeth gwahanol yn anodd dros ben.

I'ch helpu i bwyso a mesur pethau, rydym wedi rhestru ychydig o fanteision astudio yn y coleg:

  • Mwy o ddewis. Gall y coleg gynnig dewis eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol mewn mwy na 35 maes pwnc. O ran pynciau Lefel A/AS yn unig, gallwch ddewis o blith bron i 40 pwnc gwahanol.
  • Mwy o sgiliau. Yn y coleg, cewch gyfleoedd i fynd ar brofiad gwaith a chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol; byddwch yn cyfarfod ac yn gwrando ar fentoriaid a siaradwyr gwadd gwych, gan ymweld â busnesau a sefydliadau sy'n berthnasol i'ch cwrs. Bydd hyn yn rhoi rhagflas go iawn i chi o'r yrfa y gallech ei dilyn ac yn creu argraff ar eich CV!
  • Mwy o gefnogaeth. Yn y coleg, cewch gefnogaeth lawn drwy gydol eich cwrs gan Diwtoriaid Personol, y Tîm Cymorth Dysgu, Cynghorwyr Myfyrwyr ac Anogwyr Dysgu.
  • Mwy o annibyniaeth. Cewch eich trin fel oedolyn yn y coleg, a bydd y sgiliau a ddysgwch (fel sgiliau cyfathrebu a rheoli amser, sgiliau cymdeithasol a'r sgiliau a ddysgwch ar brofiad gwaith) yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy a pharod i ymgodymu â byd gwaith neu addysg uwch.
  • Mwy o gyfleoedd cymdeithasol. Mae oddeutu 21,000 o fyfyrwyr yn astudio ar ein campysau, felly os dewiswch astudio gyda ni, mae siawns dda y byddwch yn cyfarfod llawer o bobl wahanol a diddorol - a gwneud ffrindiau oes!

Os gwnewch ddewis astudio yn un o'n colegau, byddwch yn gadael gyda chymhwyster cydnabyddedig a fydd yn eich galluogi i gael y swydd neu'r brentisiaeth yr ydych wedi rhoi'ch bryd arni neu i gael lle mewn prifysgol o'ch dewis.

Dydi hi byth rhy hwyr i newid. Gwnewch gais yn uniongyrchol ar ein gwefan heddiw, neu cysylltwch â ni ar: generalenquiries@gllm.ac.uk

01492 542 338