Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Nikole i Gynrychioli Prydain Mewn Pencampwriaeth Codi Pwysau!

Mae myfyriwr o Goleg Menai wedi cael ei dewis i gynrychioli Prydain mewn pencampwriaeth codi pwysau yn Saudi Arabia yn ddiweddarach eleni.

Bydd Nikole Roberts, sy'n dilyn cwrs Chwaraeon (Antur Awyr Agored) Lefel 3 yng Ngholeg Menai, yn teithio i Saudi Arabia fis Hydref i gystadlu yn y categori 49Kg.

Mae Nikole wedi bod yn codi pwysau ers tair blynedd, mae hi'n hyfforddi pum gwaith yr wythnos yn 'Bangor Barbell' ac yn cynnal sesiynau hyfforddi codi pwysau ei hun o'r enw Elevate Weightlifting.

Mae hi eisoes wedi ennill teitl Pencampwr Cymry a Phencampwr Prydain ac mae hi'n gobeithio ennill medal ym Mhencampwriaethau'r Byd fis nesaf.

Dywedodd Andy Collins tiwtor Nikole,

"Mae hi wedi bod yn wych i ni gael cyfle i gefnogi Nikole wrth iddi ddatblygu ei sgiliau a chryfhau. Rydym yn ei chefnogi cant y cant ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld beth fydd hi'n ei gyflawni nesaf ym Mhencampwriaethau’r Byd.

Meddai Nikole,

"Rydw i'n edrych ymlaen yn eiddgar at gael cystadlu mewn digwyddiad mor fawr! Dw i wedi bod yn hyfforddi mor galed, dw i wir yn edrych ymlaen. Dw i'n ddiolchgar iawn i diwtoriaid Coleg Menai, maen nhw mor barod i'ch cefnogi a'ch annog".