Arddangos cylchgrawn Ynys Môn Cadi mewn arddangosfa fawreddog yn Llundain
Creodd Cadi'r gwaith wrth astudio cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai yn gynharach eleni
Bydd gwaith celf gan gyn fyfyrwraig o Goleg Menai, Cadi Richardson, yn cael ei arddangos mewn arddangosfa yn Llundain am y 12 mis nesaf.
Dewiswyd ei chylchgrawn, 'Ynys Môn Camping Trip Guide', ar gyfer arddangosfa 'Future Observatory' a fydd yn para blwyddyn yn Amgueddfa Ddylunio Kensington.
Creodd Cadi, o Gonwy, y gwaith yn gynharach eleni fel rhan o'i chwrs Sylfaen Celf ar gampws Parc Menai.
Ers hynny mae hi wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, a bellach yn paratoi i symud i Lundain i astudio cwrs Dylunio Tecstilau ym mhrifysgol celf fyd-enwog, Central Saint Martins.
Synnwyd Cadi i gael ei dewis ar gyfer yr arddangosfa, ar ôl iddi ddechrau gweithio ar ei chylchgrawn fel ymarfer hwyliog yn ystod gweithdy mapio.
Meddai: “Fe wnes i feddwl am hafau fy mhlentyndod a dreuliais yn gwersylla yn Ynys Môn gyda fy nheulu. A dweud y gwir, fe ddechreuais trwy chwarae o gwmpas yn gwneud rhestrau gyda fy ffrindiau am bethau gwahanol neu ryfedd i fynd gyda chi neu eu gwneud ar drip gwersylla. Roedd yn hwyl a wnes i ddim ei gymryd o ddifri.
“Roeddwn i wedi'n synnu o glywed bod fy ngwaith wedi cael ei ddewis. Efallai mai'r ffaith nad oeddwn i'n meddwl yn rhy galed am y canlyniad terfynol, neu mai dyma'r gwaith gorau i mi ei wneud. Cynhaliwyd y gweithdy tra roeddwn i'n paratoi fy mhortffolio ar gyfer y brifysgol ac roeddwn dan straen a bron i mi ofyn i gael ei fethu. Rydw i’n falch na wnes i.”
Dywed Cadi fod y cwrs Sylfaen Celf blwyddyn o hyd wedi ei pharatoi’n dda ar gyfer y brifysgol wrth iddi edrych ymlaen at yrfa greadigol yn gweithio gyda thecstilau traddodiadol.
“Rydw i wedi elwa cymaint o’r cwrs Sylfaen Celf,” meddai hi. “Rydw i wedi magu hyder a mwy o angerdd yn yr hyn roeddwn i’n ei wneud, ac wedi gwneud ffrindiau bore oes. Roedd y gweithdy creu cylchgrawn yn sicr yn uchafbwynt i mi oherwydd yr holl hwyl a gawson ni yn ystod y ddau ddiwrnod hynny.
“Rydw i'n edrych ymlaen at symud i Lundain ym mis Medi i astudio Dylunio Tecstilau yn Central Saint Martins. Rydw i am barhau i greu celf gyda thecstilau gan gyfuno technegau traddodiadol â'r gwaith rwy'n ei greu nawr. Er enghraifft, fe wnes i drwsio hen olwyn nyddu yn ddiweddar ac rydw i wedi bod yn nyddu fy edaf fy hun allan o wlân defaid i weithio ag ef. Rydw i'n gobeithio parhau i wneud hynny fel gyrfa.”
Mae arddangosfa 'Future Observatory: Tools for Transition', sy’n hyrwyddo syniadau dylunio newydd ar faterion amgylcheddol, yn agor yn yr Amgueddfa Ddylunio ar 12 Medi. Yn ddiweddar, cynhaliodd yr amgueddfa arddangosfa o weithiau celf y cynhyrchydd ffilmiau chwedlonol, Tim Burton, ac mae'r sioeau sydd ar y gweill yn amrywio o arddangosfa ar glwb nos eiconig 'Blitz' yn Llundain, i edrych yn ôl ar yrfa'r cyfarwyddwr ffilm Wes Anderson.
Mae'r cwrs Sylfaen Celf wedi ei gynllunio'n benodol i baratoi myfyrwyr ar gyfer dilyn cwrs Addysg Uwch a gweithio ym maes Celf a Dylunio. Dysgwch ragor yma, neu ewch i gllm.ac.uk/cy/courses/art-and-design-and-photography i weld yr ystod o gyrsiau a gynigir gan Grŵp Llandrillo Menai.