Estyn yn canmol Partneriaeth Dysgu Cymunedol Gwynedd a Môn am ehangu mynediad a chefnogi dysgwyr
Mae Partneriaeth Dysgu Cymunedol Gwynedd a Môn, a gadeirir gan Grŵp Llandrillo Menai, wedi cael canmoliaeth gan arolygwyr Estyn am ei gweledigaeth gadarn a'i haddysg gynhwysol, ac am gael dylanwad cadarnhaol ar ddysgwyr yng Ngwynedd a Môn.
Yn ei adroddiad arolygu diweddaraf, mae Estyn yn tynnu sylw at y ffordd mae'r bartneriaeth yn helpu oedolion i ddatblygu sgiliau hanfodol, i fagu hyder, ac i ddychwelyd i addysg.
Y prif nodweddion y tynnir sylw atynt yn yr adroddiad yw'r ymrwymiad i gefnogi dysgwyr a'r croeso sydd i'w gael yng nghanolfannau cymunedol Tŷ Cyfle sydd wedi cael eu hagor gan Grŵp Llandrillo Menai yng nghanol trefi Caergybi, Bangor a Chaernarfon.
Pwysleisiodd yr adroddiad bwysigrwydd canolfannau Tŷ Cyfle gan eu bod yn cynnig cyrsiau sgiliau hanfodol a datblygiad personol yn y gymuned, a hefyd yn dod â bywyd newydd i adeiladau nad oedd llawer o ddefnydd arnynt trwy eu trawsnewid yn hybiau bywiog ar gyfer dysgu gydol oes.
Nododd yr arolygwyr bod yr amgylcheddau dysgu i gyd yn gynhwysol a chefnogol, a'u bod yn darparu mannau diogel lle gall dysgwyr fagu hyder, gwella eu llesiant ac ailgysylltu'n gymdeithasol, gan lwyddo'n aml i leihau unigrwydd a meithrin ysbryd cymunedol cryf.
Mae adroddiad Estyn hefyd yn nodi bod y tiwtoriaid yn cynllunio ac yn cyflwyno sesiynau trefnus a phwrpasol, gan deilwra eu gwersi i anghenion y dysgwyr ac adeiladu perthynas gref â hwy sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Yn ôl yr arolygwyr roedd y dysgwyr yn gwneud cynnydd da gyda'u llythrennedd a'u rhifedd a'u sgiliau digidol a galwedigaethol.
Canmolwyd y bartneriaeth am gefnogi dysgwyr i wella eu haddysg, i ddatblygu eu sgiliau a hefyd i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflogaeth, ac roedd sawl enghraifft o ddysgwyr yn paratoi i fynd ymlaen i gyrsiau Addysg Bellach, Safon Uwch neu Brifysgol.
Pwysleisiwyd bod addysgu dwyieithog a datblygu sgiliau Cymraeg yn gryfderau arbennig. Canmolwyd y tiwtoriaid am symud yn rhwydd rhwng y Gymraeg a'r Saesneg, ac am gefnogi'r dysgwyr i ddod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg.
Nododd Estyn hefyd fod siaradwyr Cymraeg nad oeddent yn rhugl yn cael budd o hyn, gan fod dysgwyr yn dweud wrthynt fod defnyddio adnoddau Cymraeg a dwyieithog mewn sesiynau yn eu helpu i wella eu dealltwriaeth a'u defnydd o dermau Cymraeg cyffredin.
Yn ogystal, canmolodd yr arolygwyr y bartneriaeth am y cydweithio cryf oedd yn digwydd rhwng yr awdurdodau lleol, Grŵp Llandrillo Menai ac Addysg Oedolion Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,
"Rydym ni wrth ein bodd bod Estyn wedi cydnabod y gwaith rhagorol sy'n digwydd ledled Gwynedd a Môn. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod dysgu oedolion yn gallu newid bywydau drwy wella eu hyder, eu sgiliau a'u cyfleoedd. Rydym ni'n eithriadol o falch o lwyddiant ein haddysg ddwyieithog a chanolfannau dysgu gydol oes Tŷ Cyfle, sy'n golygu bod addysg o fewn cyrraedd mwy o gymunedau nag erioed o'r blaen. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn.”
Yn ôl Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Cyngor Sir Ynys Môn, Aaron C. Evans:
"Sicrhau darpariaeth addysg effeithiol heddiw ac i genedlaethau'r dyfodol yw un o brif amcanion strategol y Cyngor Sir.
"Rydym ni'n croesawu'r adroddiad am ei fod yn canmol yr addysg sydd ar gael i oedolion lleol, a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt i barhau i ddatblygu'n bersonol drwy gydol eu bywydau. Mae hyn yn dysteb i'r cydweithio effeithiol sy'n digwydd rhwng y partneriaid."
Dywedodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:
"Mae’n bleser gweld llwyddiant Canolfannau Tŷ Cyfle yn cael ei gydnabod gan Estyn.
Maen nhw'n cynnig cyfleoedd dysgu cynhwysol ac ysbrydoledig sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr ledled Gwynedd.
Llongyfarchiadau i’r tîm am eu hymroddiad a’u gweledigaeth."
Mae Partneriaeth Dysgu Cymunedol Gwynedd a Môn yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai, Addysg Oedolion Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn.
Rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned leol.