Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Grŵp Llandrillo Menai ar y brig yng Nghymru yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025

Grŵp y coleg a sgoriodd uchaf yn y wlad am Foddhad Cyffredinol am yr ail flwyddyn yn olynol yn yr arolwg blynyddol o ddysgwyr addysg uwch

Grŵp Llandrillo Menai a gyflawnodd y gyfradd 'Boddhad Cyffredinol' uchaf yng Nghymru yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2025 - am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cafodd grŵp y coleg sgôr gadarnhaol o 88% yn yr arolwg blynyddol o ddysgwyr addysg uwch. Roedd hyn yn uwch nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru, a 6% yn uwch na chyfartaledd y DU.

Sicrhaodd y Grŵp y safle uchaf yng ngogledd Cymru hefyd am 'Boddhad Cyffredinol ag Addysgu' (89.2% yn gadarnhaol) a chanlyniad uwch na chyfartaledd y DU mewn 25 allan o 27 o gwestiynau'r arolwg.

Bob blwyddyn, mae'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn casglu barn myfyrwyr ar ansawdd eu cyrsiau addysg uwch. Mae hyn yn helpu i lywio dewisiadau darpar fyfyrwyr, yn darparu data sy'n cefnogi prifysgolion a cholegau i wella profiad myfyrwyr, ac yn cynorthwyo atebolrwydd cyhoeddus.

Mae pob prifysgol yn y DU yn cymryd rhan yn yr arolwg, ynghyd â nifer o golegau addysg bellach, ac mae'r cyfraddau ymateb yn uchel bob amser.

Ymhlith y cryfderau allweddol a amlygwyd gan fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn arolwg 2025 mae cyfleoedd dysgu, asesu ac adborth, a chefnogaeth academaidd.

Yn adran 'Cyfleoedd Dysgu' yr arolwg, teimlai 93% o fyfyrwyr fod eu cwrs wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau y bydd eu hangen arnynt ar gyfer eu dyfodol - 12% yn uwch na chyfartaledd y DU. Ymatebodd 93% hefyd fod eu cwrs wedi cyflwyno pynciau a sgiliau mewn ffordd a oedd yn ategu ar yr hyn yr oeddent eisoes wedi'i ddysgu (8% yn uwch na chyfartaledd y DU).

O dan 'Asesiad ac Adborth', sgoriodd Grŵp Llandrillo Menai ymhell uwchlaw cyfartaledd y DU ym mhob cwestiwn, gan gynnwys Pa mor glir oedd y meini prawf marcio a ddefnyddiwyd i asesu eich gwaith? a Pa mor deg fu'r marcio a'r asesu ar eich cwrs? (y ddau 14% yn uwch na chyfartaledd y DU) a Pa mor dda mae'r asesiadau wedi caniatáu ichi ddangos yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu? (13% yn uwch).

O dan 'Cymorth Academaidd', ymatebodd 97% ei bod hi'n hawdd cysylltu â staff addysgu, gyda 94% yn teimlo bod staff addysgu wedi cefnogi eu dysgu'n dda.

Dywedodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn falch i fod ar frig y rhestr yng Nghymru am Foddhad Cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac rydym yn ddiolchgar i’n dysgwyr am rannu eu profiadau.

“Wrth i ni barhau i ehangu ac ymestyn ein darpariaeth addysg uwch, mae'n hynod galonogol bod dysgwyr yn gwerthfawrogi ein cyrsiau lefel prifysgol o'r ansawdd uchel a'n cefnogaeth academaidd, sydd ymhlith y gorau yng Nghymru.

“Mae’r canlyniadau hyn wir yn rhoi dealltwriaeth dda i ni ar sut mae ein myfyrwyr yn teimlo am eu profiad addysg uwch, ac rydw i wrth fy modd bod dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn mynegi barn mor gadarnhaol am y ddarpariaeth a gynigiwn ar draws ein campysau.

“Mae’r canlyniadau’n dyst i’r gwaith caled a’r buddsoddiad yn ein myfyrwyr gan ein staff talentog, ymroddedig a phrofiadol yn y diwydiant, sef ein hased mwyaf yng Ngrŵp Llandrillo Menai.”

Mae Grŵp Llandrillo Menai’n cynnig cyrsiau prifysgol mewn dros 30 maes pwnc. Cyflwynir y rhan fwyaf o'r cyrsiau yng nghanolfan arbenigol y brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, gyda llawer hefyd yn cael eu cyflwyno ar gampysau Bangor, Dolgellau, Llangefni a'r Rhyl.

Gallwch dal wneud cais am y rhaglenni Gradd sy'n dechrau fis Medi. I weld ein dewis o gyrsiau, ewch i'n gwefan: gllm.ac.uk/degrees, neu anfonwch neges e-bost i degrees@gllm.ac.uk i drafod gyda chynghorydd.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date