Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ail Salon i Elle, y Darpar Ddarlithydd

Mae Elle Maguire wedi dychwelyd i Goleg Menai gyda'r nod o drosglwyddo ei sgiliau i eraill, a pharhau i ehangu ei busnes llwyddiannus

Mae Elle Maguire, myfyrwraig arobryn o Goleg Menai, wedi agor ei hail salon gwallt yn ddiweddar yn ystod y cyfnod ble roedd hi'n hyfforddi i fod yn ddarlithydd trin gwallt.

Mae Elle yn rhedeg The Hair Bar ym Mangor, a gafodd ei ethol y llynedd yn siop trin gwallt gorau’r ddinas ac sydd wedi bod ar restr ‘ThreeBestRated’ Gwynedd bob blwyddyn ers 2019.

Yn ddiweddar, cymerodd y ferch 27 oed yr awenau yn The Hair and Beuaty Bar ger ei thref enedigol, Caergeiliog, Ynys Môn. Dyma oedd lleoliad ei chyfnod profiad gwaith pan oedd hi'n fyfyriwr Coleg Menai 10 mlynedd yn ôl.

Yn ogystal â hyn, mae hi yn ôl yn y coleg lle dechreuodd ei thaith, yn dilyn cwrs TAR a fydd yn ei chymhwyso i ddarlithio mewn trin gwallt.

Mae awydd Elle i ddysgu yn deillio o'i chyfnod yn gweithio i Regis, un o frandiau trin gwallt gorau’r DU, yn eu salon ym Mangor.

“Roeddwn i'n arfer dysgu hyfforddeion yn Regis, ac roeddwn wrth fy modd yn gwneud hynny, felly dyna pam y penderfynais addysgu,” meddai.

“Dw i wrth fy modd yn dysgu pethau newydd ac ar ôl fy nghwrs TAR, dw i'n siŵr y bydda i'n dod o hyd i gwrs arall i’w ddilyn. Dw i'n teimlo bod gwneud cymaint â phosib yn rhywbeth iach.

“Dw i wedi gwneud cymaint o bethau ond dw i'n teimlo os ydw i'n cwblhau cymaint o gymwysterau ag y gallaf rŵan, mi fyddan nhw agor llawer mwy o ddrysau i mi.”

Cofrestrodd Elle ar y Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt yng Ngholeg Menai nôl yn 2013, gan gwblhau ei chymhwyster Lefel 3 ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Meddai: “Roedd cyfleoedd anhygoel yn y coleg, fel hyfforddi gyda’r Hair Extension Academy a chystadlu yng nghystadlaethau’r coleg. Ar fy nghwrs Lefel 3, enillais gystadleuaeth y coleg a chystadlu yn Blackpool.

“Cawsom hefyd deithiau blynyddol i Salon International yn Llundain, a thaith hefyd i wylio’r sioe Alternative Hair yn yr Albert Hall. Roedd y rhain yn gyfleoedd anhygoel i rwydweithio â thrinwyr gwallt eraill, i gwrdd â brandiau a gweld yr offer diweddaraf, ac maen nhw’n atgofion na fydda i byth yn eu hanghofio.”

Ar ôl gadael y coleg, gweithiodd y Elle yn Mr Maxwell's ym Mangor a Fusion ym Menllech, gan ddychwelyd i'r coleg un diwrnod yr wythnos i gwblhau cwrs Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr ar brentisiaeth.

Yna cafodd swydd gyda Regis, gan weithio i'r brand am fwy na thair blynedd. Yn ystod y cyfnod mi welodd ei bod hi'n mwynhau trosglwyddo ei sgiliau i eraill. Ond cafodd Elle ei diswyddo yn 2019, a phenderfynodd agor ei salon ei hun.

“Doedd gen i ddim llawer o ddewis mewn gwirionedd,” meddai. “Ar ôl cael fy niswyddo doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud, ond mae fy nheulu i wastad wedi bod yn hunangyflogedig, ac roeddwn i’n teimlo mai dyna’r unig ffordd i gamu ymlaen yn fy ngyrfa.”

Felly agorodd The Hair Bar yn gynnar yn 2020, ond yna wrth gwrs fe darodd y pandemig. Ail-agorodd y salon o'r diwedd ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno - tra ar yr un pryd roedd Elle yn astudio ar gyfer ei chymhwyster Lefel 4.

“Roedd hwn yn gymhwyster anhygoel a dyma ble dysgais i am fod yn rheolwr a rhedeg fy musnes fy hun,” meddai. “Mi barhaodd y cwrs llawer hirach na’r disgwyl oherwydd Covid a'r ffaith fy mod yn sefydlu fy musnes fy hun, ond mi raddiais ym mis Gorffennaf 2022.”

Ychydig dros flwyddyn ar ôl cwblhau ei Lefel 4, mae Elle bellach yn dysgu sut i addysgu. Yn ogystal â hyn, mae hi wedi cymryd drosodd 'The Hair & Beauty Bar' – ac mae’n dweud na fyddai'r cynnig i wneud hynny wedi dod pe na bai hi wedi gwneud argraff yn ystod ei chyfnod yno ar brofiad gwaith flynyddoedd ynghynt.

“Mae lleoliadau gwaith wedi bod yn allweddol i fy ngyrfa,” meddai Elle. “Ar y pryd roedd yn anodd, gan eich bod yn gwirfoddoli mewn salonau, ond roedd hyn yn dangos fy ymrwymiad i'r gwaith.

“Dw i'n deall nad oes nod bendant neu gyfeiriad gan bawb bob amser, ac mae hynny'n iawn - ond bachwch ar bob cyfle, dydych chi byth yn gwybod beth allai ddod yn sgil y cyfleoedd hyn yn y dyfodol.

“Does dim pwysau i fod y gorau, ond cyn belled â’ch bod chi’n gwneud eich gorau glas, bydd eich tiwtoriaid a’ch darpar gyflogwyr yn gweld hynny a byddan nhw’n gallu rhoi’r cyfeiriad sydd ei angen arnoch i chi.

“Pe na bawn i wedi gwneud profiad gwaith yn The Hair & Beauty Bar, fyddwn i ddim wedi cael cynnig cymryd yr awenau rŵan. Mae wedi cymryd 10 mlynedd, ond dydych chi byth yn gwybod beth sydd ar y gorwel a pha ddrysau fydd yn agor.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Trin Gwallt a Therapi Harddwch gyda Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Cewch gyflwyno cais i gyrsiau sy'n cychwyn ym mis Medi 2024 yn awr.