Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Darren Millar yn ymweld â Choleg Llandrillo i gwrdd ag Yuliia, enillydd medal aur WorldSkills

Cafodd yr AeloI Senedd dros Orllewin Clwyd ei hysbysu am y datblygiadau diweddaraf yng Ngholeg Llandrillo a Grŵp Llandrillo Menai hefyd

Ymwelodd Darren Millar AS â Choleg Llandrillo i gwrdd â'r myfyriwr Yuliia Batrak yn dilyn ei llwyddiant yng nghystadleuaeth WorldSkills UK.

Cafodd yr AeloI Senedd dros Orllewin Clwyd ei hysbysu am y datblygiadau diweddaraf yng Ngholeg Llandrillo a Grŵp Llandrillo Menai hefyd.

Mae Yuliia, o Kyiv yn Wcráin, yn astudio Coginio Proffesiynol Lefel 2 a Gwasanaeth Bwyd a Diod Lefel 2.

Enillodd fedal aur yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty yn rownd derfynol WorldSkills UK a gynhaliwyd ym Manceinion ddechrau'r mis.

Treuliodd Darren amser yn siarad â Yuliia, a fydd yn cael ei chynnwys yng ngharfan y Deyrnas Unedig i fynd i rowndiau terfynol WorldSkills yn Shanghai, Tsieina, yn 2026.

Dywedodd: “Mae Yuliia yn ysbrydoliaeth, mae hi wedi dangos rhagoriaeth wrth gystadlu ar y llwyfan cenedlaethol.

“Roedd hi'n fraint cyfarfod â hi heddiw a gweld ei brwdfrydedd a’i phenderfyniad i lwyddo.

"Gwnaeth pa mor galed mae hi'n gweithio a pha mor ymroddedig yw hi i'w hastudiaethau yng Ngholeg Llandrillo wneud argraff arna' i. Edrychaf ymlaen at weld ei llwyddiant yn y dyfodol."

Meddai Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Hoffwn ddiolch i Darren am ei ddiddordeb parhaus a’i gefnogaeth i’n gwaith yma yn y coleg.

“Roedd hefyd yn gyfle gwych iddo gwrdd â Yuliia a chlywed am ei phrofiadau, yn enwedig gan fod Darren wedi ymweld ag Wcráin a dinas enedigol Yuliia, Kyiv.

"Mae pob un ohonom ni wedi'n cyffwrdd gan ba mor benderfynol ydi Yuliia i wthio ei hun i fod y gorau y gall fod."