Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Annie-Rose yn serennu yn y gyfres ‘Three Little Birds’

Mae'r actor hefyd wedi siarad am ei brwydr ag acalasia ac wedi canmol y gefnogaeth a gafodd gan Goleg Llandrillo ar ôl cael diagnosis yn 17 oed

Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, Annie-Rose Tate, wedi siarad am effaith clefyd acalasia arni ar ôl ennill rhan yn y ddrama lwyddiannus 'Three Little Birds' ar ITV.

Dilynodd Annie-Rose gwrs Celfyddydau Perfformio Lefel 3 ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, ac enillodd gradd rhagoriaeth driphlyg cyn mynd ymlaen i ddilyn cwrs gradd yn Ysgol Theatr Arden ym Manceinion.

Erbyn hyn, mae'r ferch 24 oed wedi ymddangos y teledu am y tro cyntaf yn 'Three Little Birds', drama chwe rhan a ysgrifennwyd gan Syr Lenny Henry, sy'n seiliedig ar brofiadau ei fam pan gyrhaeddodd Prydain fel rhan o genhedlaeth Windrush yn 1957.

Mae Annie-Rose yn ymddangos ym mhennod pump fel Myfanwy Boyce, merch sy'n tynnu sylw'r prif gymeriad Aston, gwr ifanc a lwyddodd i ddwyn perswâd ar ei chwiorydd Leah a Chantrelle a’u ffrind Hosanna i adael Jamaica gydag o.

Mae'r bennod yn cael ei darlledu nos Sul, Tachwedd 26 am 8pm, a gellir ffrydio'r gyfres gyfan ar ITVX.

Mae Annie-Rose yn disgrifio 'Three Little Birds' fel darn “celfydd” o deledu oherwydd y modd mae'n portreadu penderfyniad cenhedlaeth Windrush i adeiladu bywyd gwell – er gwaethaf yr hiliaeth a'r anghyfiawnder a wynebwyd ganddynt, ynghyd â rhwystrau eraill.

“Dw i wedi gwylio pob pennod a dw i'n meddwl ei fod yn bwysig iawn,” meddai. “Mae’n seiliedig ar y straeon ddywedodd mam Syr Lenny Henry wrtho am gyrraedd y DU – straeon sydd jyst mor brydferth ond sydd hefyd yn bwysig iawn.

"Digwyddodd llawer o bethau nad oeddwn i'n gwybod amdanynt. Mae angen i bobl wybod bod pethau fel hyn wedi digwydd - allwn ni ddim esgus na wnaethon nhw.”

Mae'r rôl yn gam mawr ymlaen i Annie-Rose, o Fae Cinmel. Pan oedd hi'n 17 oed bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth fawr ar ôl cael diagnosis o acalasia - anhwylder prin ar yr oesoffagws sy'n gwneud llyncu yn boenus.

“Pan oeddwn yn Llandrillo dechreuais fynd yn wael,” meddai. "Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn bod ac roedd yn rhaid i mi dreulio llawer o amser yn yr ysbyty yn cael profion.

"Roedd yn anodd iawn oherwydd ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd, na neb arall o fy nghwmpas. Roeddwn i'n ferch 16 oed oedd yn mynd yn sâl bob tro roeddwn i'n bwyta rhywbeth, a dw i'n meddwl roedd llawer o bobl yn meddwl mod i'n dychmygu pethau.

"Roedd rhaid disgwyl chwe wythnos i gael diagnosis. Doeddwn i erioed wedi clywed am acalasia o'r blaen, ond yn y bôn mae'r cyhyrau yn fy oesoffagws wedi'u parlysu felly mae llyncu yn wirioneddol anodd a phoenus.

"Unwaith i mi gael y diagnosis roedd modd i mi gael ambell lawdriniaeth ar fy stumog a thriniaethau i leddfu’r cyflwr. Ond does dim iachâd felly mae’n rhywbeth y bydd yn rhaid i mi fyw ag ef.”

Bu'n rhaid i Annie-Rose gael llawdriniaeth twll clo i dorri ffibrau yng nghylch y cyhyr sy'n gadael bwyd i mewn i'r stumog. Mae hi hefyd wedi cael naw triniaeth sy'n pasio balŵn i lawr oesoffagws ac yna'n ei chwyddo.

Mae’n rhaid iddi reoli’r hyn mae’n ei fwyta yn ofalus, ac mae yfed dŵr gyda phrydau bwyd yn hanfodol, er mwyn gwthio bwyd i lawr i’w stumog.

Pan gafodd y llawdriniaeth cyntaf, roedd hi'n dal yng Ngholeg Llandrillo, a dywedodd fod cefnogaeth y coleg a'i thiwtor Jon Crowther wedi ei helpu i ddod drwyddi.

“Roedd y coleg yn wych, yn enwedig Jon,” meddai Annie-Rose. “Roeddwn i’n gwybod mai actio oedd yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud, ac roedd fy salwch yn effeithio’n aruthrol arnaf.

"Pan oeddwn i yn yr ysbyty, roeddwn i'n anfon negeseuon at Jon yn dweud, 'Dw i dan bwysau, dw i'n colli cymaint'. Ac fe fyddai'n ateb gyda phethau fel 'Dyma fonolog, dysga hi yn yr ysbyty', a dyna wnes i.

"Dan ni'n gwneud hwyl am hyn pan fyddwn ni'n edrych yn ôl ar y cyfnod, mi wnaeth fy helpu i ymdopi yn ystod y cyfnod anodd.

“Roedd pawb yn y coleg yn gefnogol iawn, yn enwedig gan nad oedd neb wedi clywed am acalasia o’r blaen. Mi wnaethon nhw addasu ar fy nghyfer, oherwydd yn amlwg mae'n gwrs corfforol iawn, ac roedd llawer o bethau na allwn eu gwneud am amser hir ar ôl y llawdriniaeth ar y stumog.

“Roedd yr athrawes symud yn help mawr i mi – doeddwn i ddim yn gallu sefyll i fyny’n syth oherwydd bod fy stumog bob siâp, ac mi wnaeth hi ddangos i mi sut oedd gwella hynny, dw i'n ddiolchgar iawn iddi.

“Ar hyn o bryd, croesi bysedd, mae popeth yn iawn. Dydw i ddim yn poeni amdano a dw i'n gallu gwybod yn syth os oes rhywbeth o'i le, a phryd dylwn i fynd i weld fy arbenigwr, ond ar hyn o bryd mae'n dda iawn.

“Mae cael acalasia wedi newid fy mywyd yn llwyr. Mae wedi cael effaith arna i, ond dw i'n reit falch ohono oherwydd mae'n rhan fawr ohono i."

Mae Annie-Rose bellach yn byw ym Manceinion gyda’i phartner Callum Burbidge, a fu’n chwarae rhan Lurch yn Coronation Street yn ddiweddar.

Ers gadael i fynd i'r ysgol ddrama yn 2018, mae hi wedi dychwelyd yn rheolaidd i Goleg Llandrillo i helpu gyda phrosiectau terfynol, daeth i gampws Llandrillo-yn-Rhos yn ddiweddar i roi sgwrs i fyfyrwyr cyrsiau celfyddydau perfformio.

Pan ofynnwyd iddi am ei hatgofion o’r cwrs yn Llandrillo, dywedodd: “Roedd yn gymaint o hwyl, roedd yn wych.

“Roedd cymaint o gyfleoedd i wneud pethau gwahanol - theatr sioe gerdd, dawns, actio, technoleg theatr neu ddylunio prop.

“Fe wnaethon nhw wneud yn siŵr ni'n dysgu am bob swydd yn y diwydiant, fel nad oedden ni'n dechrau arni'n meddwl 'dw i'n mynd i actio a dyna ni'. Roedd hyn yn ffordd o wneud yn siŵr ein bod ni'n gwerthfawrogi pob rôl yn y diwydiant. Roeddwn i wrth fy modd yn y coleg.”

⁠⁠I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Celfyddydau Perfformio yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024 yn agor.