Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr Coleg Menai yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Chwaraeon Môn Actif

Roedd Casi Evans a David Owen ymhlith yr enillwyr, yn ogystal â Kieran Jones, Celt Ffransis, Catrin Stewart ac Osian Perrin sy'n gyn-fyfyrwyr

Roedd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr o Goleg Menai ymhlith enillwyr Gwobrau Chwaraeon Môn Actif 2023.

Roedd Casi Evans a David Owen ymhlith rhai o’r rhai gafodd eu llongyfarch am eu rhagoriaeth mewn chwaraeon yn y seremoni, oedd yn cael ei chynnal gan gyn-bêl-droediwr Cymru, Owain Tudur Jones.

Rhannodd Casi, sy'n chwarae pêl-droed i Gymru, ac sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 ar gampws Llangefni, wobr Chwaraewraig Iau y Flwyddyn gyda Catrin Stewart sy'n gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Menai.

Yn ddiweddar, sgoriodd Casi, o Amlwch, y gôl fuddugol i ferched dan-17 Cymru mewn buddugoliaeth yn erbyn yr Eidal ar giciau o’r smotyn, ac mae yn y garfan ar gyfer gemau rhagbrofol yr Ewro yn erbyn Albania (dydd Gwener 24 Tachwedd), Kazakhstan (dydd Llun 27 Tachwedd) a’r Ynysoedd y Faroe (Dydd Iau 30 Tachwedd).

Enillodd David, sy’n astudio Hyfforddiant Chwaraeon Lefel 3 yn Llangefni, wobr Llysgennad Ifanc y Flwyddyn. Mae David yn chwarae rhan fel chwaraewr a hyfforddwr gyda Chlwb Criced Porthaethwy, ac yn ddiweddar enillodd glod y ‘Rising Star’ yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr Clwb gan Griced Cymru 2023, yn ogystal â chwarae rygbi i Fangor.

Hefyd ymhlith enillwyr Gwobrau Chwaraeon Môn Actif roedd Kieran Jones, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Menai, a enillodd y wobr Cyflawniad Personol. Y llynedd enillodd Kieran, o’r Fali, deitl Taflu Pwysau F34 Cymru, a oedd yn gamp ryfeddol wedi i’w hyfforddwr Anthony Hughes farw ddiwedd y llynedd.

Ymhlith yr enillwyr eraill yn y gwobrau roedd y cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, Osian Perrin, a enillodd wobr Chwaraewr Hŷn y Flwyddyn, a Celt Ffransis, a oedd yn rhan o Academi Rygbi Coleg Llandrillo ac a enwyd yn Chwaraewr Iau y Flwyddyn.

Roedd Ollie Coles, Swyddog Ymgysylltu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb Rygbi Cymru, yn y gwobrau ac roedd yn falch o weld David a Celt yn cael eu cydnabod.

Meddai: “Roeddwn yn hynod o falch o fod yn bresennol yng Ngwobrau Chwaraeon Môn Actif ym Miwmares, a chael gweld Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn derbyn gwobrau i gydnabod eu cyflawniadau.

“Roedd Celt Ffransis yn aelod o’n Hacademi Rygbi yma yng Ngholeg Llandrillo, ochr yn ochr â chwarae i Rygbi Gogledd Cymru yn ei grŵp oedran.

“Mae Celt wedi mynd ymlaen i gynrychioli tîm dan 18 Cymru yn erbyn yr Alban a’r Eidal. Mae hefyd wedi mynd ymlaen i ymuno ag academi hŷn RGC ac wedi gwneud sawl ymddangosiad iddynt yn Uwch Gynghrair Cymru. Mae Celt yn fodel rôl gwych i chwaraewyr rygbi ifanc Ynys Môn ac mae’r coleg yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

Wrth siarad am lwyddiant David, dywedodd Ollie: “Mae David yn aelod annatod o Glwb Criced Porthaethwy. Mae wedi bod yn gapten ar eu trydydd tîm ar sawl achlysur, yn ogystal â chwarae fel chwaraewr amryddawn ar gyfer y tîm cyntaf a'r ail dîm. Mae David hefyd yn cynorthwyo'r adran iau drwy hyfforddi, sgorio a dyfarnu ar gyfer y tîm dan 13 a'r tîm dan 15, gan gefnogi chwaraewyr ymhellach y broses o drosglwyddo o griced iau i hŷn.

"Oddi ar y llain Griced, mae David hefyd yn chwaraewr rygbi brwd i dîm ieuenctid Clwb Rygbi Bangor ac yn rhoi cryn dipyn o gefnogaeth i Glwb Rygbi Porthaethwy.

“Mae David wedi mynychu cyrsiau hyfforddi a gynhaliwyd yn y clwb, yn cefnogi gwaith hyfforddi'r tîm gallu cymysg - 'Llewod y Bont' a hefyd yn cefnogi'r tîm hŷn ar ddiwrnod gêm.

“Heb os, mae David wedi cael effaith sylweddol ar chwaraeon ym Mhorthaethwy. Mae'n glod i'r coleg ac yn gwbl haeddiannol o'r wobr hon.''

Y seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Hamdden Biwmares oedd y gyntaf ers y pandemig, a derbyniwyd mwy na 500 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau amrywiol.

Dywedodd Barry Edwards, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Môn Actif: “Roedd y digwyddiad yn dathlu llwyddiannau chwaraeon eithriadol unigolion a thimau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac roedd hefyd yn cydnabod y gwaith caled sy’n cael ei wneud gan hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar draws y sir yn wythnosol.

“Diolch i’w gwaith caled, gall pobl o bob oed a gallu, gymryd rhan mewn gweithgareddau o’u dewis.

“Fe wnaeth y digwyddiad helpu i amlygu pwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned hefyd, a bydd Môn Actif yn anelu at gryfhau cydweithio lleol ymhellach er mwyn helpu i ehangu'r darpariaethau chwaraeon ar Ynys Môn. Edrychwn ymlaen yn awr at seremoni 2024 ac adeiladu ar y flwyddyn lwyddiannus hon.”

Am fanylion yr holl enillwyr, darllen yr adroddiad ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer cyrsiau sy'n cychwyn ym mis Medi 2024.