Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canolfan Beirianneg newydd Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn Croesawu Myfyrwyr

Mae myfyrwyr wedi dechrau dilyn cyrsiau yn y Ganolfan Beirianneg sydd newydd agor ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl. Dyma gyfleuster arloesol a blaengar sy'n werth £13 miliwn.

Bwriad y datblygiad, a ariennir ar y cyd gan 'Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy' Lywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai, yw rhoi i drigolion yr ardal y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gyrfaoedd llewyrchus ym maes peirianneg, ac mae hyn yn cynnwys y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Mae Canolfan Beirianneg y Rhyl yn gyfleuster tri llawr o’r radd flaenaf sy’n ymestyn dros 3000m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf. O roboteg a pheiriannau prototeipio cyflym i beiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron, mae'r ganolfan wedi'i chynllunio i ddarparu profiadau dysgu na ellir eu curo.

Elfen allweddol o'r datblygiad trawsnewidiol hwn yw'r cyfleuster hyfforddi ym maes technoleg ynni adnewyddadwy, sy'n bartneriaeth ar y cyd â RWE Renewables, cwmni rhyngwladol sy’n adnabyddus am reoli nifer o safleoedd ynni adnewyddadwy ledled y DU. Nodwedd amlwg o'r ganolfan fydd neuadd i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol, sy'n brawf o'r ymrwymiad i arloesi a hyrwyddo addysg ym maes ynni adnewyddadwy.

Darperir ystod eang o gyrsiau Peirianneg yn y ganolfan, gan gynnwys rhaglenni lefel Gradd. Yn eu plith mae cyrsiau Mecanyddol, Trydanol, Electronig, Peiriannu, Gweithgynhyrchu Uwch, Roboteg, Awtomeiddio, Tyrbinau Gwynt a Rheolaeth ac Offeryniaeth.

Yn sicr, bydd Canolfan Beirianneg Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn darparu addysg ragorol mewn amgylchedd a fydd yn annog y myfyrwyr i archwilio, dysgu a defnyddio eu sgiliau mewn sefyllfaoedd gwaith go iawn. Bwriad y cyfleuster yw mynd i'r afael â'r galw cynyddol am weithwyr proffesiynol medrus yn y sector peirianneg, fel y nodwyd gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,

“Mae Canolfan Beirianneg y Rhyl yn brawf o'n hymrwymiad i hyfforddi cenhedlaeth newydd o beirianwyr medrus a chefnogi adfywiad economaidd ardal y Rhyl. Mae’r buddsoddiad hwn yn cyd-fynd â’n Cynllun Strategol lle mae cynaliadwyedd yn thema allweddol.”

Meddai Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo:

“Rydw i'n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yma ar Gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl. Mae’n bwysig rŵan ein bod ni i gyd yn gwneud y defnydd gorau o’r buddsoddiad yn y Rhyl a’r hyn sydd gan y ganolfan i’w gynnig. Mi fyddwn ni'n cynnal sawl digwyddiad yn ystod y misoedd nesaf ac rydw i'n edrych ymlaen at groesawu dysgwyr a phartneriaid newydd o ddiwydiant i’r ganolfan.”

Meddai John McKenzie, Pennaeth Gweithrediadau Alltraeth (Gogledd) RWE,

“Mae gan RWE berthynas sefydlog a llwyddiannus gyda Choleg Llandrillo, ac rydym wrth ein bodd bod y coleg wedi dod yn ganolfan ragoriaeth i’n gweithwyr. Mae'r maes Cynhyrchu Ynni Gwynt ar y Môr wedi tyfu’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein gweithlu a’i ddatblygu er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad gyda datblygiadau newydd diwydiant.

“Llongyfarchiadau i Goleg Llandrillo ar ddatblygu'r cyfleuster gwych hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio er mwyn datblygu sgiliau ym maes ynni gwyrdd”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Peirianneg sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.

Nod y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yw trawsnewid profiad dysgu dysgwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth sydd a’r technolegau a’r cyfleusterau gofynnol i allu cyflwyno Cwricwlwm i Gymru.