Alex, seren Tîm Prydain, i arwain seminar Perfformio i'r Eithaf olaf 2024/25
Ar hyn o bryd mae'r cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo yn chwarae i Dîm Prydain ym mhencampwriaethau pêl-fasged cadair olwyn dan 23 y byd ym Mrasil
Bydd seren pêl-fasged cadair olwyn Prydain, Alex Marshall-Wilson, yn dod i Goleg Llandrillo i roi sgwrs am gyfleoedd ym myd chwaraeon cynhwysol - yn syth ar ôl cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd dan 23 oed.
Alex, sy'n wreiddiol o Ddeganwy, yw is-gapten carfan Prydain sy'n cystadlu yn y twrnamaint byd-eang ym Mrasil ar hyn o bryd (Mehefin 12 i 20).
Yn dilyn y pencampwriaethau, bydd y cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo yn dychwelyd i gampws Llandrillo-yn-Rhos i arwain seminar 'Perfformio i'r Eithaf' olaf y flwyddyn academaidd (dydd Iau, 26 Mehefin).
Mae'r seminar, sy'n dechrau am 6pm yng Nghanolfan y Brifysgol, yn RHAD AC AM DDIM ac yn agored i'r cyhoedd. Archebwch eich lle yma.
Yn ogystal â siarad am gyfleoedd a rhwystrau o fewn chwaraeon anabledd, bydd Alex yn rhoi cipolwg ar ei daith ei hun, o gymryd rhan mewn chwaraeon para cymunedol i helpu Prydain i ennill pencampwriaethau Ewropeaidd dan-23 y llynedd.
Dywedodd blaenwr Sheffield Steelers: “Byddaf yn siarad am gyfleoedd i gynnig mwy o chwaraeon addasol i bobl sydd ag anableddau, a sut gallwn ni roi gwybod i bobl pa gyfleoedd sydd ar gael.
“Mi fyddaf i hefyd yn edrych ar sut y gallwn oresgyn rhwystrau mewn chwaraeon anabledd, ac yn rhannu ychydig o fy stori - sut rydw i wedi bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon anabledd a sut mae wedi fy helpu, a gobeithio y bydd hynny’n ysbrydoli rhai pobl.”
Mae gan Alex syndrom ffibwla, wlna ac asgwrn y forddwyd, cyflwr prin sy'n golygu ei fod wedi'i eni ag esgyrn byrrach yn ei gluniau, croth y goes a blaen ei freichiau, yn ogystal â chyhyr ar goll yn ei fraich dde.
Dechreuodd ddefnyddio cadair olwyn yn 10 oed ar ôl i niwed i'r nerf achosi i'w goes chwith gael ei pharlysu.
Dechreuodd Alex ymddiddori mewn pêl-fasged cadair olwyn ar ôl i'w ffisiotherapydd ei roi mewn cysylltiad â Mark Richards, Swyddog Chwaraeon Anabledd Conwy, a oedd hefyd yn hyfforddwr y tîm lleol, Conwy Thunder.
Ar ôl astudio cwrs Chwaraeon Lefel 3 ar gampws Coleg Llandrillo, mae Alex bellach mae wedi gorffen ei ail flwyddyn yn astudio cwrs gradd mewn Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough, ac mae'n chwarae i'r Sheffield Steelers yng Nghynghrair Genedlaethol Pêl-fasged Cadair Olwyn Prydain.
Ar ôl gorffen yn y brifysgol, mae'r gŵr 21 oed yn gobeithio sicrhau contract i chwarae'n broffesiynol yn Ewrop, ac mae ei fryd ar Gemau Paralympaidd 2028 yn Los Angeles. Ond cyn hynny mae ei ffocws ar Bencampwriaethau'r Byd ym Mrasil, lle mae Prydain ymhlith y ffefrynnau.
“Fel arfer mae disgwyl i dîm Prydain ennill medal,” meddai. “Dyma Bencampwriaethau'r Byd cyntaf i bawb yn y garfan, felly mi fydd 'na bwysau gwahanol arnon ni a thimau gwahanol i chwarae yn eu herbyn. Ond rydyn ni'n hyderus y gallwn ni wneud yn dda.
“Mae’n anrhydedd fawr cael fy enwi’n is-gapten, ac rwy’n edrych ymlaen at fod allan yna fel rhan o’r tîm arweinyddiaeth.”
Os ydych chi eisiau gwylio Alex a thîm Prydain Fawr ar waith, bydd yr holl gemau o Bencampwriaethau'r Byd Dan-23 yn cael eu ffrydio ar sianel YouTube y Ffederasiwn Pêl-fasged Cadair Olwyn Rhyngwladol: https://www.youtube.com/@iwbforg
Bydd seminar Perfformio i'r Eithaf Alex Marshall-Wilson ar Chwaraeon Cynhwysol yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Prifysgol Coleg Llandrillo, campws Llandrillo-yn-Rhos, ddydd Iau, 26 Mehefin (6pm). I archebu eich lle, ewch i: gllm.ac.uk/cy/peak-performance