Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Meirion-Dwyfor yn dathlu llwyddiant myfyrwyr 2025

Ar gampws Dolgellau cynhaliodd y coleg ei seremoni flynyddol i wobrwyo cyflawnwyr er mwyn cydnabod y dysgwyr hynny oedd wedi dangos rhagoriaeth yn ystod y flwyddyn academaidd

Dathlodd Coleg Meirion-Dwyfor lwyddiant ei fyfyrwyr yn Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr 2024/25.

Olivia Boyd, dysgwr Lefel A oedd ‘Myfyriwr y Flwyddyn’, tra cafodd 13 o'i chyd-fyfyrwyr hefyd wobr am ragori yn eu meysydd rhaglen (mae rhestr lawn o'r enillwyr i'w gweld isod).

Daeth yr enillwyr ynghyd ar gampws Dolgellau i ddathlu eu llwyddiant gyda'u teulu a'u ffrindiau.

Bob blwyddyn, gwahoddir darlithwyr o bob maes pwnc i enwebu myfyrwyr am wobr, a rheolwr y maes rhaglen sydd wedyn yn dewis yr enillydd ar gyfer y ddisgyblaeth honno.

Yna mae'r Pennaeth yn dewis enillydd gwobr Myfyriwr y Flwyddyn ar sail ei lwyddiant academaidd a'r hyn a gyflawnodd.

Cyflwynodd Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai wobr Myfyriwr y Flwyddyn i Olivia Boyd, ynghyd â thaleb gwerth £200.

Dywedodd ei bod hi wedi “rhagori yn academaidd ac yn bersonol, gan ddangos awydd gwirioneddol i ddysgu oedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth”.

Mae Olivia, sy'n astudio ar gampws Pwllheli, wedi ennill graddau A* yn ei holl arholiadau hyd yma, a'r disgwyl yw y bydd hi'n ennill rhagor o raddau A* yr haf hwn. Yn ogystal ag astudio'n llawn amser, mae hi wedi cyfrannu dros 30 awr o waith i brosiect Cynllun Addysg Beirianneg Cymru.

Wrth gyflwyno'r wobr i Olivia, dywedodd Aled Jones-Griffith: “Rwyt ti wedi dangos dyfalbarhad, aeddfedrwydd a gwydnwch emosiynol. Nid gormodiaith ydi dweud dy fod wedi bod yn fyfyrwraig eithriadol. Rydyn ni'n sicr y byddi di'n mynd ymlaen i gyflawni pethau mawr yn y dyfodol.”

Cyflwynodd Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor, Dr Siôn Peters-Flynn, dlws i enillydd pob maes rhaglen

Cyflwynodd hefyd Darian Chwaraeon Robin Llŷr Evans a Gwobr Goffa Glesni Davies. Caiff y ddwy wobr eu cyflwyno i ddysgwyr sydd wedi rhagori mewn chwaraeon, er cof am gyn-fyfyrwyr.

Wrth agor y seremoni, dywedodd Dr Peters-Flynn: “Braint i mi yw cael cyflwyno'r gwobrau nodedig hyn i griw o fyfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed ac wedi dangos gymaint o ymroddiad yn ystod y flwyddyn.

“Mae'r enillwyr heno 'ma wedi cael eu henwebu am eu bod yn fyfyrwyr sydd wedi bod yn barod i fynd yr ail filltir, wedi goresgyn rhwystrau neu wedi rhagori yn eu pynciau. Dyna sy'n gwneud y gwobrau hyn yn rhai arbennig iawn ac mae hi'n fraint cael eu cyflwyno.”

Y siaradwr gwadd ar y noson oedd Jack Williams, cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor a gipiodd y fedal efydd yng nghystadleuaeth Gweinydd Ifanc y Byd yn Singapore yn 2024.

⁠Brodor o Ddolgellau yw Jack ac fe gwblhaodd gwrs Lefel 2 mewn Lletygarwch ar Arlwyo yn y coleg y llynedd, gan ennill gwobr 2023/24 ei faes rhaglen. Arferai weithio yng ngwesty Penmaenuchaf yn y dref, cyn ymuno'n ddiweddar â'r gwasanaeth tân.

Dyma restr lawn o enillwyr Gwobrau Cyflawnwyr Coleg Meirion-Dwyfor 2024/25:

Lefel A (Gwyddorau) a Myfyriwr y Flwyddyn: Olivia Boyd

Lefel A (Dyniaethau): Angharad Sophia Thomas

Celf a Dylunio⁠: Lara Edwards

Busnes: Ellie Brown

Cyfrifiadura: Thomas Wyn Beddall

Adeiladu: Daniel Young

Peirianneg: Robert John Gunton

⁠Gwallt a Harddwch: Kimberley Hart

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Alaw Mai Robyns

Iechyd a Gofal gyda Gofal Plant: Grace Roberts

Lletygarwch ac Arlwyo: Charlotte Lamb

Sgiliau Bywyd a Gwaith: Keira Martin-Jones

Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn: Alaw Mai Robyns

Tarian Chwaraeon Robin Llŷr Evans: Tomos Morgan

Gwobr Goffa Glesni Davies: Osian Morris

Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau addysgol a chyrsiau hyfforddi yng ngogledd Cymru, o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau i gyrsiau Lefel A, graddau a chymwysterau proffesiynol. I ddysgu rhagor, ewch i'n gwefan.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date