Emma i Gystadlu ym Mhencampwriaethau Hyrox y Byd yn Chicago
Ar ôl dechrau ymddiddori yn y gamp bedwar tymor yn ôl mae'r darlithydd o Goleg Llandrillo, Emma Huntley, bellach yn barod i gystadlu'n unigol yn y gystadleuaeth Hyrox fwyaf yn y byd
Yr wythnos hon bydd y darlithydd o Goleg Llandrillo, Emma Huntley yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Hyrox y Byd yn Chicago.
Dyma benllanw pedwar tymor o ymroddiad i'r ras ffitrwydd, ac mae hi eisoes wedi cystadlu yn y categori dyblau cymysg yn Nice y llynedd.
Mae chwaraeon ac ymarfer corff yn wastad wedi bod yn bwysig i Emma, ond nid yn yr ystyr draddodiadol. Dechreuodd ymddiddori yn y maes ffitrwydd trwy bŵt-camp roedd ei ffrind yn ei gynnal. Dyma daniodd ei diddordeb mewn ymarfer cymunedol a fyddai'n ei harwain yn y pen draw at fyd cystadleuol rasio Hyrox.
Mae Hyrox yn cyfuno wyth ras redeg 1 km ag ymarferion gweithredol fel gwthiadau sled, rhagwthion bag tywod, a gorffen gyda pheli wal – lle mae'n rhaid i'r cystadleuwyr gyrcydu a thaflu eu pêl yn erbyn y targed gant o weithiau.
Rhaid wrth gryfder a dygnwch, felly mae'r gamp i'r dim i Emma sydd wedi ymddiddori erioed mewn symud a pherfformio ym maes gwyddor chwaraeon.
“Efo'r bŵt-camps wnes i ddechrau ac ro'n i wrth fy modd – y cyfrifoldeb, yr her, a'r ffordd roedd yn gwneud i mi deimlo,” meddai Emma. “Ymhen amser ro'n i am gael mwy o strwythur a rhywbeth i brofi fy hun yn ei erbyn, a dyna arweiniodd fi at Hyrox.”
Cystadlodd Emma am y tro cyntaf yn yr adran agored i ferched ym Manceinion yn nhymor 2021/2022, ac ar y pryd doedd y gamp ddim yn cael llawer o sylw. Symudodd ymlaen i'r adran broffesiynol, ac yna'r dyblau cymysg gan ennill ei lle ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Nice y llynedd. Mae hi'n dychwelyd i'r llwyfan rhyngwladol ar gyfer y gystadleuaeth eleni (12-15 Mehefin), ond fel cystadleuydd unigol y tro hwn.
Cyn dechrau cymryd rhan mewn rasys Hyrox, roedd Emma'n herio ei hun mewn digwyddiadau dygnwch fel Ras Ultra Pen Llŷn – ras 75 milltir o gwmpas y penrhyn. Cwblhaodd honno mewn 24 awr gan godi arian at ymchwil lewcemia ar ôl i'w brawd gael diagnosis.
“Roedd mwy na ffitrwydd y tu ôl i'r ras honno. Roedd yn golygu gwneud rhywbeth mawr pan oedd popeth mewn bywyd yn teimlo'n ansicr. Datblygodd ymarfer corff yn ffordd i mi ganolbwyntio a bod yn gryf,” meddai.
Ers darganfod Hyrox ar ôl y cyfnod clo, mae Emma wedi croesawu'r gamp fel athletwr ac academydd.
Daw â'i phrofiad mewn athletau i'r ystafell ddosbarth, lle mae hi'n gyfrifol am gydlynu'r cwrs Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff i fyfyrwyr Blwyddyn 1 ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae ei modiwlau'n cynnwys anatomi, maetheg, a phrofi yn y maes. Mae ei hymroddiad ei hun i hyfforddi a pherfformio yn rhoi mantais ymarferol iddi mewn gwersi, gan ei bod yn gallu helpu'r myfyrwyr i weld sut mae'r theori'n berthnasol i'r byd chwaraeon go iawn.
Markus Frison, sy'n athletwr elît ei hun, yw hyfforddwr Emma ac mae hi'n ymarfer chwe diwrnod yr wythnos gan drefnu'r sesiynau'n ofalus o gwmpas ei gwaith a'i theulu.
“Mae rhai dyddiau’n ddwys iawn ac yn canolbwyntio ar sesiynau Hyrox a rhedeg ysbeidiol,” meddai. “Mae eraill yn haws er mwyn i mi gael amser i ddod ataf fy hun. Rhaid wrth gysondeb a gallu i addasu i fywyd.”
Yn gynharach eleni, daeth Emma a'i phartner yn y dyblau cymysg yn 11fed yng ngrŵp oedran 40-49 Pencampwriaethau Hyrox Ewrop yn Fienna. Enillodd ei lle yng nghystadleuaeth unigol Pencampwriaethau’r Byd yn Chicago yn 24/25 ar ôl dod yn ail ym Manceinion yn gynharach eleni. Ei nod yw cael canlyniad da yn Chicago, lle bydd yn cynrychioli Cymru fel rhan o Dîm Prydain.
“Nid y safle terfynol sy'n bwysig i mi – ond y daith,” meddai Emma. “Dw i'n mwynhau gweld beth all fy nghorff ei wneud, dysgu sut i hyfforddi fy hun yn well, a helpu eraill i wneud yr un peth. Yr hyn sy'n bwysig i mi ydi iechyd, perfformio, a mwynhau. Dyna pan dw i'n dal ati.”
Ydych chi eisiau cael gyrfa yn y byd chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.