Perfformio i'r Eithaf
Cyfres o seminarau ar berfformiad a llesiant a gynhelir gan Goleg Llandrillo.
Ymunwch â ni i gael cyfle arbennig i glywed gan siaradwyr gwadd nodedig sydd wedi perfformio i'r eithaf yn eu gwahanol feysydd, yma yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
Byddwn yn cynnal pedwar seminar yn ystod 2025, a bydd pob un yn costio £5
Yn agored i fyfyrwyr a’r cyhoedd.
Mawrth:
Neil Cottrill – Pennaeth Hyfforddi a Datblygu, PGMOL
Gwneud Penderfyniadau Dan Bwysau mewn Chwaraeon: Cefnogi Llesiant Swyddogion Gemau
Coleg Llandrillo - Canolfan Brifysgol, Campws Llandrillo-yn-Rhos: Nos Iau 6 Mawrth, 6pm
Mae Neil yn gyn-chwaraewr badminton rhyngwladol (enillodd ei gap cyntaf dros Loegr yn erbyn China yn Stadiwm Gatehead) a chyrhaeddodd y 12fed safle yn y byd mewn dyblau dynion.
Ar ôl i'w yrfa fel chwaraewr ddod i ben, treuliodd ddeng mlynedd yn darlithio ym maes Hyfforddiant Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff ac yn ystod y 30 mlynedd diwethaf mae hefyd wedi bod yn hyfforddi perfformwyr elît mewn amrywiol chwaraeon.
Symudodd i faes datblygu hyfforddiant fel Pennaeth Hyfforddiant ac Addysg i Badminton England, gan drawsnewid sut roedden nhw'n addysgu hyfforddwyr. Yna, yn dilyn y Gemau Olympaidd yn Rio, symudodd i PGMOL (Professional Game Match Officials Limited) i arwain y gwaith o gefnogi a datblygu hyfforddwyr sy'n gweithio gyda phrif swyddogion gemau'r wlad.
PGMOL yw'r corff sy'n gyfrifol am ddyfarnu gemau pêl-droed proffesiynol yn Lloegr ac mae'n eiddo i'r Gymdeithas Bêl-droed, yr Uwch Gynghrair a'r Gynghrair Bêl-droed.
__________________
Ebrill:
Felicity Devey, Dietegydd a Maethegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Gwneud 'ennill yn dda' yn fwy tebygol yng Nghymru – gwersi o faes Maetheg Chwaraeon
Coleg Llandrillo - Canolfan Brifysgol, Campws Llandrillo-yn-Rhos: Nos Llun 7 Ebrill, 6pm
Fel maethegydd perfformiad mae Felicity wedi gweithio gyda phencampwyr Olympaidd a Pharalympaidd ac enillwyr medalau yng Ngemau'r Gymanwlad a chystadlaethau Ewropeaidd a Rhyngwladol. O gymnastwyr, raswyr cerdded a rhedwyr i chwaraewyr rygbi proffesiynol.
Cafodd ei dewis i gefnogi tîm Paralympaidd Prydain yn Tokyo2020 gan ddefnyddio ei harbenigedd i helpu athletwyr i berfformio ar y llwyfan mwyaf posibl.
Beth sydd ei angen i ennill yn dda? A sut y gall gwyddor a meddygaeth chwaraeon helpu i wneud ennill yn dda yn fwy tebygol mewn chwaraeon yng Nghymru? Bydd sgwrs Felicity yn canolbwyntio ar yr hyn mae hi wedi'i ddysgu o'i gwaith fel Maethegydd Perfformiad.
Bydd hefyd yn trafod sut mae Chwaraeon Cymru wedi gweddnewid sut mae'n darparu gwasanaethau Gwyddor a Meddygaeth Chwaraeon a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddarpar ymarferwyr.
__________________
Mai:
Hyfforddi mewn Amgylched Elît Cenedlaethol - Archebwch eich lle yma.
__________________
Mehefin:
Alex Marshall-Wilson – Chwaraewr Pêl-fasged Cadair Olwyn yn yr Uwch Gynghrair a Phencampwr Ewropeaidd dan 23. Astudio Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough.
Chwaraeon Cynhwysol
Coleg Llandrillo - Canolfan Brifysgol, Campws Llandrillo-yn-Rhos: Nos Iau 26 Mehefin, 6pm
"Ro'n i wrth fy modd yn gwylio chwaraeon pan o'n i'n iau, ond oherwydd fy anabledd do'n i byth yn cael cymryd rhan. Wnes i erioed feddwl y byddai fy mywyd yn newid pan o'n i'n 10 oed.
"Mi gefais i fy nghyflwyno i fyd pêl-fasged cadair olwyn ac o'r sesiwn gyntaf, ro'n i wedi gwirioni.
"Mi agorodd nifer o ddrysau - doeddwn i ddim yn disgwyl hynna! O fewn blwyddyn i ddechrau chwarae, mi gefais i fy newis i gynrychioli Cymru dan 15.
"Bellach wedi 10 mlynedd o gystadlu, dw i'n Bencampwr Ewropeaidd dan 23, yn chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair ac yn astudio Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough."
