Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pedwar wedi'u dewis ar gyfer Academi Yr Ifanc 2025 Cyswllt Ffermio

Mae Elin Wyn Williams, Garmon Powys Griffiths, Gwenllian Lloyd Davies a Lora Jen Pritchard, myfyrwyr o Goleg Glynllifon, wedi cael eu dewis o blith ymgeiswyr ledled Cymru

Mae pedwar myfyriwr o Goleg Glynllifon wedi cael eu dewis i ymuno ag Academi Yr Ifanc 2025 Cyswllt Ffermio.

Mae Academi yr Ifanc, Cyswllt Ffermio yn cynnig rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora ac arweiniad i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed sydd eisiau datblygu gyrfa yn y diwydiant ffermio.

Mae Elin Wyn Williams, Garmon Powys Griffiths, Gwenllian Lloyd Davies a Lora Jen Pritchard, myfyrwyr o Goleg Glynllifon, ymysg y 21 ymgeisydd llwyddiannus o blith ymgeiswyr o bob cwrs o Gymru.

Mi wnaethon nhw gyfarfod â'u cyd-aelodau o'r Academi ar 22 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru, a bydd y grŵp yn cyfarfod eto ar gyfer ymweliadau preswyl a thaith maes i Norwy.

Lora Jen Pritchard

Magwyd Lora ar fferm cig eidion a defaid ger Pwllheli ac mae'n astudio cwrs Amaeth Lefel 3 ⁠yng Ngholeg Nglynllifon.

Mae hi'n rheoli ei menter defaid Brith Iseldiraidd ei hun, ac mae wedi derbyn gwobr 'Aelod Iau'r Flwyddyn' dros Eryri ddwywaith gan Fudiad y Ffermwyr Ifanc.

Mae hi'n gobeithio dilyn cwrs Amaeth a Busnes ym Mhrifysgol Harper Adams, a chafodd ei dewis ar gyfer Academi Yr Ifanc oherwydd ei huchelgais, ei rhinweddau arwain a'i hagwedd rhagweithiol tuag at wella arferion ffermio.

Dywedodd Lora: “Dw i'n gobeithio y bydd profiad yr Academi Amaeth yn rhoi dealltwriaeth ehangach i mi o sut mae ffermydd ledled Cymru a Norwy yn gweithredu, ac yn datblygu fy hyder. Dw i’n edrych ymlaen at feithrin cysylltiadau gyda ffermwyr ifanc o’r un anian a thrafod gyda phobl fusnes blaengar.”

Garmon Powys Griffiths

Mae Garmon o Fachynlleth yn dilyn cwrs Lefel 3 Peirianwaith Amaethyddol. Mae o wrth ei fodd ym maes amaethyddiaeth, a pheiriannau fferm a da byw o ddiddordeb penodol iddo. Mae hefyd yn aelod gweithgar o'i Glwb Ffermwyr Ifanc lleol, ac enillodd gwpan y Siaradwr Iau yn 2023.

Meddai Garmon: "Mae Academi Amaeth Yr Ifanc yn gyfle anhygoel i fagu hyder, i ymestyn fy hun a datblygu fy nghryfderau ymhellach.

"Mi fydd ymweld â ffermydd yn Norwy, gwlad sy’n enwog am ei safonau byw uchel a’i harferion ffermio llwyddiannus, yn brofiad gwerthfawr iawn i mi."

Gwenllian Lloyd Davies

Mae Gwenllian o Bwllheli yn dilyn cwrs Amaeth Lefel 3. Cafodd ei magu ar fferm laeth y teulu, ac mae ganddi brofiad ymarferol o odro, bwydo, a lles da byw, ac mae wedi ymgymryd ag amryw o gyrsiau hyfforddi sy'n gysylltiedig ag amaeth.

Mae hi'n awyddus i ddatblygu sgiliau newydd ac archwilio cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol drwy Academi Yr Ifanc.

Dywedodd Gwenllian: "Bydd cyfle i mi, drwy'r Academi Amaeth, i ddysgu gan weithwyr proffesiynol blaengar a gwybodus yn y diwydiant, meithrin cysylltiadau, gwneud ffrindiau a gweld y datblygiadau diweddaraf ar waith.”

Elin Wyn Williams

Mae Elin, o Fangor, hefyd yn dilyn cwrs Amaeth Lefel 3 ac yn anelu at yrfa fel rheolwr fferm, ar ôl ennill tair blynedd o brofiad ymarferol eisoes.

Mae hi'n helpu gyda godro a magu lloi ar fferm laeth fawr â 500 o unedau sy'n rhedeg system lloia dan do, drwy gydol y flwyddyn. Mae Elin hefyd yn gweithio ar fferm defaid leol, lle mae ei dyletswyddau'n cynnwys hwsmonaeth gyffredinol, didoli, dosio a brechiadau yn ogystal ag wyna a chneifio.

Dywedodd Elin: “Dw i'n credu bydd fy mhrofiad yn yr Academi Amaeth yn agor llawer o ddrysau ac yn helpu i lunio fy llwybr gyrfa yn y dyfodol.”

Fel aelodau o Academi Yr Ifanc, bydd y pedwar yn elwa o weithgareddau wedi’u cynllunio i’w hysbrydoli at y dyfodol. Bydd cyfle i gwrdd ag unigolion allweddol yn y diwydiannau bwyd a ffermio, i ddilyn hyfforddiant mewn cyfathrebu a thrafod, a chyfleoedd i ennill profiad o gadeirio cyfarfodydd.

Ar ôl cael eu cyflwyno i’r Academi Ffermio yn Sioe Frenhinol Cymru, byddant yn teithio i Norwy ddiwedd Awst i ddysgu am arferion ffermio, mwynhau ymweliadau preswyl a lleoliad gwaith, cyn i’r rhaglen ddod i ben gyda seremoni yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ym mis Tachwedd.

Mae fferm a choedwig Glynllifon yn 300 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad ac amaethyddiaeth. I weld y cyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date