Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn Amser dros 2 flynedd. Mae'r cwrs fel arfer yn 4 diwrnod yr wythnos gyda 5 wythnos o brofiad gwaith y flwyddyn.

Gwnewch gais
×

Amaethyddiaeth Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Glynllifon

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa mewn amaethyddiaeth? Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau i safon uwch?

Ar y cwrs hwn, cewch feithrin eich gwybodaeth am amaethyddiaeth, gan ddysgu rheoli yn ogystal â deall yr agweddau ymarferol. Mae hefyd yn lwybr galwedigaethol i Addysg Uwch.

Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth, neu gwrs Lefel 2 Seiliedig ar Waith. Bydd i'r dim i chi hefyd os ydych newydd sefyll eich TGAU neu os oes gennych brofiad perthnasol. Cewch brofiad ymarferol gwerthfawr, gan astudio da byw, cnydau a pheiriannau yn ogystal â mynychu sesiynau hyfforddiant ymarferol. Cewch fanteisio ar y cyfleusterau ardderchog a geir ar ein campws yng Nglynllifon ac ar arbenigedd ein staff.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen y canlynol:

  • 4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af) NEU Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen fel a ganlyn:

  • Mae'r cwrs yn cynnwys cymysgedd o sesiynau ymarferol ag darlithoedd / gwersi er mwyn meithrin ag ehangu ar eich dealltwriaeth.
  • Cyflwynir y cwrs yn ddwyieithog, ac mae'r deunyddiau dysgu ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae safle Glynllifon yn cynnwys 750 acer o dir amaethyddol a choetiroedd, a cheir yno wartheg godro, defaid, gwartheg bîff a moch. Byddwch yn gweithio gyda'r anifeiliaid, yr offer a'r adnoddau amaethyddol arbenigol a geir ar y fferm, gan feithrin sgiliau a gwybodaeth mewn sefyllfa realistig.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Caiff y rhaglen ei asesu fel a ganlyn:

  • Aseiniadau portffolio i arddangos eich dealltwriaeth o rai unedau
  • Asesiad synoptig ymarferol ac ysgrifenedig sy'n cwmpasu nifer o unedau
  • Arholiad ffurfiol allanol ar unedau craidd

Dilyniant

Os byddwch yn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd amryw o ddewisiadau ar gael i chi. Mae'r cymhwyster yn cyfateb i 3 Lefel A, a bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i Addysg Uwch, gan ddilyn cyrsiau HND, Graddau Sylfaen neu Raddau Anrhydedd.

Gallech hefyd fynd ymlaen i waith, a bydd gennych sgiliau i weithio ar lefel uwch. Gallech hefyd ddilyn cwrs Addysg Uwch mewn swydd, neu fynd ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Amaethyddiaeth
  • International

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Glynllifon

Amaethyddiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Amaethyddiaeth

Myfyriwr yn gweithio ar fferm