Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn Amser dros 2 flynedd. Cynhelir y cwrs bedwar diwrnod yr wythnos yn arferol gyda phump wythnos o brofiad gwaith bob blwyddyn.

Gwnewch gais
×

Peirianwaith Amaethyddol Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Glynllifon

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa ym maes peirianneg diwydiannau'r tir? Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau ar lefel uwch?

Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y wybodaeth sydd gennych eisoes am beirianneg yng nghyd-destun diwydiannau'r tir. Cewch feithrin gwybodaeth arbenigol mewn trwsio a chynnal a chadw offer a ddefnyddir yn y sector. Mae'r cwrs hefyd yn ymdrin ag agweddau ar reoli ac â'r gofynion sy'n gysylltiedig â rhedeg sefydliadau. Yn ogystal â pharatoi ar gyfer gyrfa, cewch hefyd gyfle i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i Addysg Uwch.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 2 mewn Peirianneg Diwydiannau'r Tir neu sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 2 Seiliedig ar Waith. Mae hefyd i'r dim os ydych wedi cwblhau TGAU, neu wedi cael profiad perthnasol.

Cewch brofiadau gwerthfawr yn y sesiynau hyfforddi ymarferol. Byddwch yn elwa hefyd ar y cyfleusterau rhagorol sydd yng Nglynllifon ac ar arbenigedd ein staff.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen y canlynol:

  • 4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af); NEU Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 perthnasol;
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Wedi'i seilio'n ymarferol i ennill profiad o weithio ar dechnoleg a systemau amaethyddol
  • Gwaith ystafell ddosbarth i ddatblygu dealltwriaeth o systemau peirianneg a'u cymhwysiad.
  • Cyflwynir y cwrs yn ddwyieithog, ac mae'r deunyddiau dysgu ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg

Mae safle Glynllifon yn cynnwys 750 acer o dir amaethyddol a choetiroedd, a cheir yno wartheg godro, defaid, gwartheg bîff a moch. Byddwch yn gweithio gyda'r anifeiliaid, yr offer a'r adnoddau amaethyddol arbenigol a geir ar y fferm, gan feithrin sgiliau a gwybodaeth mewn sefyllfa realistig.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Aseiniadau portffolio i ddangos eich dealltwriaeth o rai unedau
  • Asesiad synoptig ymarferol ac ysgrifenedig sy'n cwmpasu nifer o unedau
  • Arholiad ffurfiol allanol ar unedau craidd

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau. Mae'r cymhwyster yn gyfwerth â 3 Lefel A, ac mae nifer o fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i Addysg Uwch i astudio ar gyfer cymwysterau HND, Graddau Sylfaen neu Raddau Anrhydedd.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Gallech hefyd fynd ymlaen i waith, gan y bydd gennych y sgiliau i weithio ar lefel uwch, neu ddewis dilyn cwrs Addysg Uwch a gweithio yr un pryd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg Diwydiannau'r Tir

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Glynllifon

Peirianneg Diwydiannau'r Tir

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg Diwydiannau'r Tir

Myfyriwr yn weldio