Lillie yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol mewn cystadleuaeth i'r DU gyfan
Gorffennodd Lillie Saunders o Goleg Llandrillo yn drydydd yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Prentis y Flwyddyn y Gymdeithas Paentio ac Addurno
Derbyniodd y fyfyrwraig o Goleg Llandrillo, Lillie Saunders, wobr genedlaethol yn cydnabod ei sgiliau mewn peintio ac addurno.
Daeth Lillie, sy'n astudio Peintio ac Addurno Lefel 2 ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, yn drydydd yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn y Gymdeithas Paentio ac Addurno.
Cyhoeddwyd ei bod hi'n drydydd mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd gan y PDA (Cymdeithas Peintio ac Addurno) yn Neuadd y Plaisterers yn Llundain.
Roedd Lillie ymhlith yr 16 o sgorwyr gorau o bum rownd ranbarthol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban a gyrhaeddodd y Rownd Derfynol yn Doncaster.
Gorffennodd yn drydydd ar ôl brwydro trwy ddwy her chwe awr a gynlluniwyd i brofi cywirdeb, stamina a sgiliau.
Dywedodd Lillie, sy'n gobeithio dod yn artist murluniau ar raddfa fawr neu'n artist adfer: “Mi ges i lawer o brofiadau wrth fod yn rhan o'r gystadleuaeth ac mi wnes i ddysgu sgiliau newydd - mi helpodd hyn fi i ddarganfod beth rydw i eisiau ei wneud yn y dyfodol.
“Ro'n i wedi cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth er mwyn cael y profiad a do'n i ddim yn disgwyl cyrraedd y rownd derfynol, felly pan glywais i fy mod i wedi llwyddo, ges i 'chydig bach o sioc. Roedd cystadlu yn y rownd derfynol yn brofiad cyffrous ac mi fyddwn i wrth fy modd yn ei wneud o eto.
“Roedd dod yn drydydd yn annisgwyl - ro'n i’n hapus i gyrraedd y rownd derfynol!”
Yn y rowndiau rhagbrofol ac yn y rownd derfynol, roedd rhaid i'r cystadleuwyr fesur, a phaentio dyluniad cymhleth yn fanwl gywir ar raddfa fwy o fewn yr amser a roddwyd. Beirniaid dwy ran y gystadleuaeth oedd Andrew Davies o'r APCT (Association of Painting Craft Teachers) a Neil Ogilvie, Prif Weithredwr y PDA.
Dywedodd Neil Ogilvie: “Mae cystadleuaeth Prentis y Flwyddyn y PDA yn brofiad heriol ond yn y pen draw yn werthfawr i bobl sy'n dysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn lliw.
“Mae prentisiaid yn cael eu herio i baentio dyluniad cymhleth yn fanwl gywir ar raddfa fawr sy’n profi eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y grefft. Rydym yn gwybod eu bod yn gwerthfawrogi’r profiad o gymryd rhan yn y gystadleuaeth a chael mynd i’r seremoni wobrwyo yn Llundain.
“Roedd Lillie yn sgoriwr uchel yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac rydw i’n ei llongyfarch o waelod calon ar y gwaith rhagorol sydd wedi sicrhau'r trydydd safle iddi yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn PDA 2025.”
Noddwyd cystadleuaeth Prentis y Flwyddyn gan Purdy, CITB a Johnstone's Trade.
Enillodd Lillie ei rownd ragbrofol ranbarthol yn agos at adref, gan iddi gael ei chynnal gan yr adran adeiladu ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Dyma oedd y tro cyntaf i gystadleuaeth Prentis y Flwyddyn PDA gynnal un o'i rowndiau rhanbarthol yng Nghymru.
Hoffet ti weithio yn y diwydiant adeiladu? Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig yr amrywiaeth fwyaf o gyrsiau addysg bellach ac uwch yng Ngogledd Cymru, o Lefel 1 hyd at lefel Gradd, gan gynnwys prentisiaethau. Dysgwch ragor yma.