Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Evan a Yuliia yn cystadlu yn EuroSkills 2025

Evan Klimaszewski, myfyriwr peirianneg o Goleg Menai, a Yuliia Batrak, dysgwr Lletygarwch o Goleg Llandrillo, yn cystadlu gyda Team UK yn Nenmarc

Mae myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai, Evan Klimaszewski a Yuliia Batrak yn cystadlu yn EuroSkills 2025 yn Nenmarc yr wythnos hon.

Mae’r ddau ymhlith 19 o fyfyrwyr a phrentisiaid ledled y wlad sydd wedi'u dewis i gynrychioli Team UK yng nghystadleuaeth sgiliau fwyaf Ewrop, a gynhelir yn Herning o 9 i 13 Medi.

Bydd Evan, sy'n astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gyffredinol yng Ngholeg Menai yn Llangefni, yn cystadlu yn y categori Electroneg.

Bydd Yuliia, sy'n astudio Goruchwylio ym maes Gweini Bwyd a Diod Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, yn cystadlu yn y categori Gwasanaeth Bwytai.

Mae WorldSkills UK wedi dewis Evan a Yuliia ar gyfer EuroSkills 2025 yn dilyn misoedd o gystadlaethau a phrosesau dethol trylwyr.

Dywedodd Evan: “Rydw i'n hapus dros ben o fod wedi cael fy newis i gynrychioli'r wlad yn Euroskills Herning eleni. Rydw i wedi dysgu llawer gan WorldSkills ac wedi cwrdd â chymaint o bobl wych yn y broses.”

Meddai Yuliia: “Rydw i'n edrych ymlaen yn arw i gynrychioli gwlad gyfan yn y gystadleuaeth Ewropeaidd fwyaf mewn gwasanaethau bwytai. Mae'n fraint fawr ac rydw i'n addo gwneud fy ngorau.

“Mae'r coleg wedi fy nghefnogi wrth i mi hyfforddi, felly rydw i 100% yn barod i fynd amdani. Mae’r holl diwtoriaid wedi bod yn hynod o gymwynasgar ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r coleg am y cyfle anhygoel hwn.”

Hefyd yn mynd i Herning mae'r darlithydd peirianneg o Goleg Menai, Geraint Rowlands, sy'n rheolwr hyfforddi WorldSkills UK ar gyfer electroneg a bydd yn gwasanaethu fel arbenigwr ar y panel beirniadu yn y ddisgyblaeth honno.

Dywedodd Geraint: “Mae’r hyfforddiant dwys y mae Evan a Yuliia wedi’i dderbyn yn ystod y misoedd diwethaf gyda WorldSkillsUK wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw ragori yn eu meysydd dewisol.

“Drwy gystadlu yn EuroSkills byddant yn profi eu sgiliau yn erbyn y bobl ifanc gorau o ledled Ewrop.

“Mae fy rôl fel arbenigwr ar y panel beirniadu electroneg yn golygu y byddaf yn dod ag enghreifftiau o arfer gorau yn y diwydiant yn ôl, a fydd o fudd uniongyrchol i’n myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol.”

Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn hynod falch bod Evan a Yuliia wedi cael eu dewis ar gyfer Team UK ar gyfer EuroSkills 2025, ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn Herning.

“Ar ôl perfformio cystal yn rowndiau terfynol WorldSkills UK maen nhw’n llawn haeddu cael eu dewis gan eu bod wedi dangos nid yn unig lefel uchel eu sgiliau, ond hefyd pa mor benderfynol ydyn nhw o lwyddo yn eu gwahanol feysydd.

“Mae eu llwyddiant hyd yn hyn yn esiampl wych i’n holl ddysgwyr o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy waith caled ac ymroddiad. Mae hefyd yn dyst i staff Grŵp Llandrillo Menai, sydd wedi’u cefnogi a’u mentora drwy gydol y broses gystadleuaeth.

“Rydym hefyd wrth ein bodd bod Geraint yn mynychu fel arbenigwr - tystiolaeth bod staff Grŵp Llandrillo Menai yn arbenigwyr yn y diwydiant, sy’n falch o rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda’n dysgwyr, wrth barhau i ddatblygu eu gwybodaeth am y pwnc.”

Mae Evan a Yuliia hefyd yn rhan o'r garfan sy'n paratoi i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth WorldSkills 2026, a gynhelir yn Shanghai o 22 i 27 Medi'r flwyddyn nesaf.

Hefyd yn y garfan hyfforddi mae Madeleine Warburton (Ynni Adnewyddadwy), prentis technegydd tyrbinau gwynt RWE sy'n astudio yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl, a Peter Jenkins (Roboteg), cyn-fyfyriwr peirianneg yng Ngholeg Menai.

Dros y misoedd nesaf, byddant yn parhau i gymryd rhan mewn digwyddiadau dethol cyn darganfod a ydynt wedi ennill lle yn Team UK ar gyfer 'Gemau Olympaidd Sgiliau' byd-eang yn Tsieina.

Wrth edrych ymlaen at WorldSkills 2026, ychwanegodd Aled Jones-Griffith: “Pob lwc i Evan, Madeleine, Peter a Yuliia wrth iddyn nhw ymdrechu am le yng nghystadleuaeth WorldSkills y flwyddyn nesaf. Rydym yn hynod falch o'u hymdrechion, ac yn gobeithio eu gweld yn cynrychioli Grŵp Llandrillo Menai, Cymru a’r DU yn Tsieina y flwyddyn nesaf.”

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date