Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyhoeddi Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn Grŵp Llandrillo Menai

Bydd myfyrwyr a staff yn codi arian ar gyfer y gwasanaeth achub bywyd drwy gydol blwyddyn academaidd 2025/26

Mae myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel eu Helusen y Flwyddyn.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth achub bywyd dan arweiniad meddygon ymgynghorol sy'n mynd â thriniaethau safon ysbyty yn uniongyrchol at y cleifion ac, os oes angen, yn eu cludo i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu anaf.

Cyflwynir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r fflyd o gerbydau ymateb brys (RRVs) ar y ffordd.

Mae Meddygon Ymgynghorol ac Ymarferwyr Gofal Critigol medrus iawn yn gweithio ar gerbydau'r elusen yn cyflenwi'r gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, rhoi trallwysiadau gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hynny i gyd yn lleoliad digwyddiad.

Fel gwasanaeth ledled Cymru, mae criwiau ymroddedig yr elusen, waeth ble maen nhw wedi'u lleoli, yn teithio hyd a lled y wlad i ddarparu gofal critigol brys.

Meddai Troy Maclean, Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein partneriaeth elusennol gydag Ambiwlans Awyr Cymru. Dyma elusen bwysig iawn ac rydym yn edrych ymlaen at godi ymwybyddiaeth a chodi arian i gefnogi ymdrechion hanfodol yr elusen i achub bywydau.

“Rwy’n edrych ymlaen at ein hwythnosau elusennol, lle byddwn yn hyrwyddo Ambiwlans Awyr Cymru ac yn rhannu gwybodaeth am ei gwaith, arferion gweithredol a sut y gallwn ni helpu.”

Mae myfyrwyr a staff o Grŵp Llandrillo Menai yn edrych ymlaen at ymweld â maes awyr Caernarfon dros yr ychydig fisoedd nesaf. Bydd cyfle gan fyfyrwyr i ymweld â'r ganolfan, cael golwg fanylach ar yr hofrennydd, yr RRVs a'r cit yn ogystal â chlywed gan glinigwyr a chleifion blaenorol am sut mae'r gwasanaeth wedi eu helpu.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gobeithio y bydd yr ymweliad yn ysbrydoli pawb i wneud cymaint ag y gallant i helpu.

Ychwanegodd Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr y Grŵp: “Ein prif nod yw codi ymwybyddiaeth am waith yr elusen a chodi cymaint o arian ag y gallwn yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Mae ein hymgyrch codi arian yn cael ei arwain i raddau helaeth gan fyfyrwyr, nhw fydd yn arwain y ffordd o ran y ddigwyddiadau maen nhw am eu cynnal. Rwy'n disgwyl i rai syniadau diddorol ddod i'r amlwg yn ystod ein cyfarfod nesaf.”

Dywedodd Elaine Orr, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel ei Elusen y Flwyddyn.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ac yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda phawb dros y deuddeg mis nesaf.

"Fel unig wasanaeth ambiwlans awyr Cymru, rydym yn dibynnu ar y cyhoedd i godi arian i'n helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb brys ar y ffordd. Drwy haelioni ein cefnogwyr, rydym yn ymdrechu'n gyson i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn elwa o'n gwasanaeth hanfodol ledled gogledd Cymru.

"Gobeithio y gallwn gyda'n gilydd greu cyfleoedd codi arian cyffrous iawn y bydd pawb eisiau cymryd rhan ynddynt. Bydd pob punt a godir yn helpu i achub bywydau.”

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date