Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lia yn cael gweld y byd ar ôl dilyn cwrs Teithio a Thwristiaeth

Ar ôl astudio yng Ngholeg Menai cafodd Lia Williams swydd fel un o griw caban Jet2, a bellach mae hi ar fin ehangu ei gorwelion ar ôl cael swydd newydd gyda Virgin Atlantic

Ers astudio Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Menai mae Lia Williams wedi teithio ledled Ewrop, a chyn bo hir bydd yn lledu ei hadenydd ymhellach.

Cafodd y ferch 21 oed o Borthmadog swydd fel un o griw caban Jet2 y llynedd ar ôl cwblhau ei chwrs Lefel 3 ar gampws Bangor yn 2021.

Gan weithio o Faes Awyr Leeds, mae Lia wedi mwynhau teithiau i Sbaen, Portiwgal, yr Ynysoedd Dedwydd a'r Lapdir – er pleser yn ogystal ag yn sgil ei swydd.

Yn y Flwyddyn Newydd bydd yn ddechrau gweithio i Virgin Atlantic, gan hedfan o Faes Awyr Heathrow i gyrchfannau fel Barbados, Cape Town, Efrog Newydd, Los Angeles, Orlando, San Francisco a'r Maldives.

Mae'n yrfa ddelfrydol i Lia, a gofrestrodd yng Ngholeg Menai bedair blynedd yn ôl am ei bod hi eisiau teithio'r byd.

“Rydw i ar ben fy nigon a faswn i ddim yn newid unrhyw beth am fy ngwaith,” meddai. “I wneud y cwrs roedd yn rhaid i mi deithio o Borthmadog i Fangor, oedd yn tuag awr bob ffordd, felly roedd rhaid i mi ddangos cryn dipyn o ymrwymiad.

“Ond ro'n i’n gwybod o’r diwrnod cyntaf ’mod i eisiau gweithio yn y diwydiant teithio, a rhoddodd y cwrs wybodaeth a dealltwriaeth eang o’r diwydiant i mi, a chipolwg ar bethau fel pa gwmnïau hedfan oedd yn llwyddiannus.

“Ro'n i eisiau gweld y byd ac yn meddwl ‘Rydw i wrth fy modd yn gwerthu a rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid’, a dyna beth ydi’r swydd – darparu profiadau gwych i gwsmeriaid.”

Mae diwrnod gwaith Lia yn dechrau gyda thaith fer i Faes Awyr Leeds i gwrdd â'r criw a gwneud gwiriadau cyn hedfan, cyn hedfan i gyrchfannau ledled Ewrop.

“Mi allwn ni fod yn mynd i rywle fel Alicante ac yn aros yno am hanner awr cyn hedfan yn ôl, neu'n aros draw ar hediadau siarter,” meddai.

“Ro'n i'n ddigon ffodus i gael mynd ar hediad siarter i'r Lapdir fis Rhagfyr. Aethon ni â theithwyr yno am y diwrnod, ac roedden ni'n cael treulio amser yno hefyd. Es i i bentref Siôn Corn a gweld goleuadau'r gogledd – roedd yn anhygoel.”

Pan nad yw hi'n gweithio, mae Lia yn gallu manteisio ar fuddion staff fel teithio am bris gostyngol.

Meddai: “Gall sifft fod yn 10 i 16 awr, felly dim ond tua deg diwrnod y mis y byddwch chi'n eu gweithio fel arfer, sy’n golygu eich bod chi’n aml yn cael pedwar neu bum diwrnod o'r gwaith yr un pryd.

“Rydw i'n aml yn defnyddio fy ngostyngiad staff i fynd ar wyliau i rywle. Y llynedd es i â fy nain i Mallorca, es i Bortiwgal gyda fy nhaid, es i i'r Ynysoedd Dedwydd ac i Brag i weld y marchnadoedd Nadolig.”

O fis Ionawr ymlaen bydd Lia yn teithio ymhellach fyth pan fydd yn dechrau ei swydd newydd gyda Virgin Atlantic.

“Mi wnes i benderfynu ’mod i eisiau gweld mwy o'r byd,” meddai. “Ro'n i awydd hedfan pellteroedd hir felly mi wnes i gais ar wefan Virgin Atlantic.

“Maen nhw'n hedfan i 30 a mwy o leoliadau ar draws pum cyfandir, a gyda phob hediad rydych chi'n aros am ddwy neu dair noson, mewn llefydd fel Efrog Newydd, Las Vegas a Johannesburg yn Ne Affrica. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gael dechrau.”

Pan ofynnwyd iddi pa gyngor fyddai hi'n ei roi i rywun sy’n ystyried dilyn yr un llwybr, dywedodd Lia: “Ewch amdani.

“Dydi hi ddim yn swydd 9 tan 5 arferol. Rydych chi'n cwrdd â phobl ym mhobman, ac mae pawb mor gyfeillgar. Os na rowch chi gynnig arni, fyddwch chi byth yn gwybod.”

Mae twristiaeth yn sector bwysig yng ngogledd Cymru, ac mae dysgwyr Teithio a Thwristiaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn cael cyfle i astudio o Lefel 2 hyd at lefel gradd. Mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio i amrywiaeth o gwmnïau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys asiantaethau teithio, trefnwyr teithiau a chwmnïau hedfan.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Teithio a Thwristiaeth yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024 yn agor fis Tachwedd.
Bydd nosweithiau agored yn cael eu cynnal ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ystod mis Tachwedd – i gael rhagor o wybodaeth,
cliciwch yma.