Gwobrau Arian ac Efydd yng Nghwpan y Byd ar gyfer Myfyrwyr Coleg
Mae Tîm Cogyddion Iau Cymru yn dathlu wedi ennill gwobrau arian ac efydd yn y Cwpan Byd Coginio yn Luxembourg! Yn hynod iawn, mae dau draean o'r sgwad yn cynnwys myfyrwyr cyfredol neu gyn-fyfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo o Grwp Llandrillo Menai.
Hedfanodd y cogyddion ifanc dawnus y faner Gymreig gyda balchder, gan ychwanegu'r fedel arian yng nghegin boeth Bwyty'r Cenhedloedd at y fedal efydd ddyfarnwyd yn yr elfen Bwrdd o Dân, a ddigwyddodd yn gynharach yn y gystadleuaeth fyd-eang.
Coginiodd y tîm, yn cynnwys cogyddion ifanc o bob rhan o Gymru a'r gororau, bob math o ddanteithion gan gystadlu yn erbyn 15 tîm arall o bob rhan o'r byd yn y digwyddiad coginio proffil uchel.
Yn yr adran 'Bwrdd Tân' gwelwyd y tîm yn paratoi pedwar math gwahanol o fwyd bys a bawd poeth ac oer a phlât o bysgod neu fwyd môr Nadoligaidd oer, a phrif gyrsiau a phwdin poeth i 12 o bobl. Mi wnaethant gwblhau eu cystadleuaeth yn 'Nhŷ Bwyta'r Cenhedloedd' lle cawsant y dasg o baratoi a choginio pryd tri chwrs ar gyfer 70 o bobl.
Mae'r Tîm Iau yn cael ei reoli gan Michael Kirkham-Evans, darlithydd ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos a'i hyfforddi gan Danny Burke, cyd-berchennog Olive Tree Catering, Runcorn a chyn gapten Tîm Coginio Uwch Cymru.
Mae'r tîm yn cynnwys y capten Calum Smith, cogydd crwst yn y Shrewsbury School, y cyn fyfyrwyr o Grwp Llandrillo Menai Harry Paynter-Roberts, sy'n sous chef yn y Carden Park Hotel and Spa, ger Caer a Harry Osborne, prif gogydd yn y Quay Hotel and Spa, Deganwy, ynghyd â Sion Hughes, prif gogydd yn y Spa yn Carden Park Hotel, Stephanie Belcher, chef de partie yn Coast, Saundersfoot, a Jay Rees, sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd ar gampws Llandrillo-yn-Rhos Grwp Llandrillo Menai.
Yr aelodau sgwad oedd yn cefnogi'r tîm yn Luxembourg oedd: Amira Milner o Fwyty Signatures, Conwy; Heather Spencer, commis chef yn y Links Hotel, Llandudno a Pippa Taylor - sydd i gyd yn fyfyrwyr cyfredol yng Ngrwp Llandrillo Menai.
Dywedodd Michael Evans: "Roedd y fedel y tu hwnt i'n breuddwydion. Roedd y garfan yn dangos cyfuniad da o sgiliau, gwybodaeth ac ieuenctid. Bu eu datblygiad dros y 12 mis diwethaf yn rhyfeddol, ac maent yn parhau i godi’r safon o ran eu moeseg gwaith ac ansawdd y prydau a baratowyd.
Dywedodd yr hyfforddwr Danny Burke: "Roeddem i gyd wrth ein bodd gyda'r medalau. Pan yr ystyriwch y diffyg profiad yn y tîm - roedd rhai cogyddion yn cystadlu ar y lefel hon am y tro cyntaf - a'r ffaith eu bod yn cystadlu yn erbyn y gorau yn y byd, dwi'n meddwl iddynt fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau."
Canmolodd y Capten Calum Smith y gwaith caled gan bawb oedd yn gysylltiedig gyda'r tîm. "Yn gyffredinol, rydym wrth ein boddau o fod wedi ennill y medalau arian ac efydd. Mae hwn yn gyflawniad anferth ar gyfer ein tîm dibrofiad ac ar gyfer Cymru," meddai.
"Dyma fy ail gystadleuaeth fel capten ac mae'r wybodaeth a enillais wedi rhoi tân yn fy mol i gael yr hyn rydym i gyd ei eisiau - medal aur yn y Gystadleuaeth Coginio Olympaidd yn 2024."
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo, ffoniwch dîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.
E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk