Myfyrwyr yn Cyhoeddi Llyfr Stori Nadolig
Cafodd myfyrwyr o Goleg Menai gyfle oes yn ddiweddar i ddrafftio a chyhoeddi llyfr stori Nadolig i blant gydag awdur a darlunydd medrus.
Mewn ymgais i ddatblygu eu sgiliau gweithio mewn tîm a rheoli amser, bu’r saith myfyriwr ‘Paratoi at Weithio’ yn Llangefni yn gweithio’n agos gyda’r awdur a’r darlunydd David Donaghy i gynllunio stori, datblygu cymeriadau, ac yna mynd ati i ysgrifennu stori.
Mae'r stori Nadoligaidd, 'The Christmas Resuce' yn dilyn hynt a helynt coblynnod sydd mewn trafferth ar Noswyl Nadolig gyda Siôn Corn wedi torri ei goes a'r unig goblyn a all yrru sled Siôn Corn wedi mynd ar ei wyliau.
Mae myfyrwyr a staff 'Paratoi at Weithio' i gyd yn ymddangos yn y llyfr fel coblynnod; mae cymeriadau’r coblynnod yn debyg iawn iddyn nhw, ac mae tasgau’r coblynnod hefyd yn debyg i'r targedau a osodwyd i’r myfyrwyr gan eu tiwtor.
Wedi ei gyhoeddi gan Blurb Books, mae 'The Christmas Rescure' bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Llundain ac wedi cael hawlfraint. Mae'r llyfr hefyd ar gael i'w brynu ar-lein am £7.99.
Dywedodd Amber Foster-Williams, un o'r myfyrwyr a weithiodd ar y llyfr:
"Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd yn darllen ac ysgrifennu straeon. Mae cael bod yn rhan o'r broses o greu a chyhoeddi llyfr wir wedi gwireddu breuddwyd!"
"Rydw i'n ddiolchgar iawn i David Donaghy am roi'r cyfle inni i weithio gydag ef."
Ychwanegodd Tracey Lynne Locke, tiwtor Paratoi at Weithio yng Ngholeg Menai:
"Gwnaeth y grŵp fwynhau gweithio ar y prosiect hwn yn fawr iawn. Cafodd y myfyrwyr brofiad gwych yn ysgrifennu'r stori. Roedd yn gyfle unigryw a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd i ddod. Mae John (LSA) a minnau wir yn gwerthfawrogi holl waith caled David ar y prosiect hwn."
Meddai David Donaghy,
"Ar ôl cyfarfod gyda'r myfyrwyr mewn sesiwn dros Zoom, cofiais am y diffyg arweiniad oedd gen i pan ddechreuais ar fy ngyrfa fel awdur. Cofiais hefyd pa mor anodd oedd hi i ddechrau'r daith i ddod yn awdur cyhoeddedig. Penderfynais felly i roi her i'r myfyrwyr er mwyn gwthio eu hunain, ymestyn ffiniau a chyflawni rhywbeth mae llawer yn breuddwydio amdano.
“Yn sicr ni wnaethon nhw fy siomi; gwnaethon nhw wynebu'r her a gweithio gyda'i gilydd i lunio sgript a'i anfon ymlaen ataf. Roeddwn i wrth fy modd yn ei ddarllen.
“Gan weithio fel tîm, gwnes i, Tracey, John a’r myfyrwyr, gynhyrchu darn o waith y gallent oll fod yn falch ohono. Roeddwn i'n eithriadol o falch o bob un ohonynt pan ddaeth y prosiect i ben.
“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o 'The Christmas Resuce' a bydd y profiad a'm hatgofion o'r myfyrwyr yn aros gyda mi am byth.”