Pobl Ifanc Grŵp Llandrillo Menai ar y TRAC Cywir ar gyfer Dyfodol Mwy Disglair!
Yn ddiweddar daeth rhanddeiliaid a oedd yn ymwneud â phrosiect gwerth £38m a ariannwyd gan yr UE i gefnogi pobl ifanc a oedd wedi ymddieithrio o addysg ac mewn perygl o ddod yn NEET (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant), ynghyd ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn y Rhyl i ddathlu’r gwahaniaeth mae prosiect TRAC Grŵp Llandrillo Menai wedi gwneud i fywydau cannoedd o ddysgwyr ledled holl golegau'r Grŵp.
Roedd cynrychiolwyr o Grŵp Llandrillo Menai, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn bresennol i nodi llwyddiant ysgubol prosiect TRAC 16-24 Grŵp Llandrillo Menai rhwng 2016 a 2022. Amcan penodol y prosiect oedd lleihau nifer y bobl ifanc 16-24 oed sy’n dod yn NEET, a'u cefnogi i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd i lwyddo fel oedolion.
Nodwyd dysgwyr a oedd yn gymwys am gymorth drwy ddefnyddio Dull Adnabod Anghenion yn Gynnar (EIT) a ddefnyddiwyd i hwyluso trafodaethau am lefel y cymorth yn y Paneli 'Dysgwyr sydd mewn Perygl' ledled y Grŵp er mwyn penderfynu ar y cymorth fwyaf addas ar gyfer pob unigolyn. Yn dilyn y cyfarfodydd panel, byddai Mentor TRAC yn gweithio gyda'r dysgwyr i greu cynllun gweithredu personol a threfnu cymorth pwrpasol er mwyn sicrhau eu bod yn ymgysylltu a'r coleg ac yn llwyddo.
Mae TRAC 16-24 wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn Grŵp Llandrillo Menai a bydd ei effaith a’i etifeddiaeth barhaus yn parhau i gefnogi a llywio cymorth iechyd meddwl a lles yn y dyfodol i ddysgwyr sy’n astudio yn y Coleg. Mae prosiect TRAC y Grŵp wedi arwain at ostyngiad o 66% yn nifer y dysgwyr 16-24 oed sydd wedi dod yn NEET. Mae dysgwyr a gafodd gymorth TRAC wedi gwella eu presenoldeb, wedi datblygu sgiliau gwell, megis gwydnwch, cyfathrebu ac iechyd meddwl cadarnhaol ac wedi mynd ymlaen i gyflawni'n llwyddiannus ar eu cwrs ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Gan siarad yn y digwyddiad, dywedodd Carolyn Thomas AS: "Roedd yn wych clywed a dysgu am fanteision y prosiect TRAC 16-24 a ariannwyd gan Ewrop. Rwy’n gobeithio y gall y prosiect barhau o dan ffrwd ariannu newydd, gan ehangu yn llwybr i gyflogaeth drwy weithio gyda’r gymuned fusnes.”
Ychwanegodd aelod arall o’r Senedd, Gareth Davies AS: “Mae wedi bod yn bleser ymweld â Choleg y Rhyl i ddysgu mwy am gynllun TRAC 16-24, a gwaith gwych y prosiect i ddarparu addysg, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ifanc oedd ei angen fwyaf. Mae’r prosiect wedi llwyddo i leihau’r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn dod yn NEET.”
Meddai James Nelson, Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd Grŵp Llandrillo Menai: “Mae prosiect TRAC wedi bod yn ardderchog o ran y gefnogaeth y mae wedi’i rhoi i lawer o ddysgwyr sydd mewn perygl o ddod yn NEET. Mae 70% o ddysgwyr a gafodd gymorth gan TRAC wedi dweud wrthym heb y cymorth hwn y byddent wedi bod ar eu colled, ac na fyddent wedi cyflawni eu cymwysterau. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau cyllid fel y gallwn barhau i ddarparu’r cymorth hollbwysig hwn i’n dysgwyr fel y gallant barhau i fod yn llwyddiannus.”
Ychwanegodd Phil Jones, Pennaeth y Gwasanaethau i Ddysgwyr a Marchnata Grŵp Llandrillo Menai: “Mae’r digwyddiad wedi bod yn ardderchog. Mae wedi dangos yr effaith y mae ein Mentoriaid TRAC wedi’i chael ar ddysgwyr drwy’r cymorth pwrpasol y maent wedi’i roi i’r rhai sydd mewn perygl o ddod yn NEET.
Rydym yn falch iawn o gyflawniadau'r dysgwyr a gefnogwyd gan TRAC; mae llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i ddilyn cwrs lefel uwch, wedi dechrau Gradd Prifysgol, mewn cyflogaeth neu wedi sicrhau prentisiaeth.”
Mae prosiect TRAC 11-24 bellach wedi cau. Cafodd ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru.