Prentisiaid Tyrbinau Gwynt Yn Dathlu Blwyddyn Gyntaf Lwyddiannus
Cyflwynwyd tystysgrifau i ddeuddeg o dechnegwyr tyrbinau gwynt RWE yn ddiweddar. Llwyddodd pob un i gwblhau blwyddyn gyntaf eu hyfforddiant yn yr unig Ganolfan Hyfforddi ym maes Tyrbinau Gwynt yng Nghymru, sydd wedi'i lleoli ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
Wedi blwyddyn yn unig, maent wedi ennill Tystysgrif BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch a chymhwyster NVQ Lefel 2 C&G mewn Gwneud Gwaith Peirianneg.
Hanner ffordd drwy eu hail flwyddyn, maent yn awr yn dilyn cwrs Diploma C&G mewn Cynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt (Gwybodaeth Dechnegol) ac yn ychwanegu unedau i'r cymhwyster NVQ Lefel 2.
Grŵp Llandrillo Menai eisoes yw canolfan hyfforddi'r DU ar gyfer Cynllun Prentisiaethau RWE Renewables, a bydd y Ganolfan Beirianneg gwerth £14 miliwn sy'n cael ei hadeiladu ar gampws y Rhyl hefyd yn cynnwys gweithdy pwrpasol ar gyfer prentisiaid a staff RWE.
Ar hyn o bryd mae 23 o weithwyr RWE hefyd yn dilyn cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) ym maes Peirianneg, trwy Grŵp Llandrillo Menai.
Gan siarad yn y seremoni gyflwyno'r wythnos diwethaf, dywedodd Pennaeth Gweithrediadau Alltraeth RWE (Gogledd y DU), John Mckenzie: "Mae cwblhau'r Fframwaith Lefel 2 yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y prentisiaid. Mae'n wych eu gweld yn gwneud cynnydd da yng Ngholeg Llandrillo, ac rydw i'n falch ein bod yn cael cyfle i gydnabod eu llwyddiant yn y seremoni heddiw.
"Rydw i'n edrych ymlaen at ddilyn eu gyrfaoedd dros y blynyddoedd nesaf wrth iddyn nhw sefydlu eu hunain fel technegwyr medrus ar ffermydd gwynt presennol RWE ac ar y rhai rydym wrthi'n eu datblygu."
Meddai Marc McDonough, hyfforddwr ac aseswr Coleg Llandrillo ym maes Tyrbinau Gwynt,
"Rydym yn falch iawn o gael parhau i weithio mewn partneriaeth â RWE Renewables i hyfforddi pobl ifanc ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy hwn sy'n prysur dyfu. Mae gennym raglen brentisiaeth lwyddiannus ar gyfer ynni hydro, ynni gwynt alltraeth ac ynni gwynt ar y tir ac edrychwn ymlaen at weithio gyda RWE Renewables am lawer o flynyddoedd eto."
Dechreuodd y grŵp cyntaf o dechnegwyr dan hyfforddiant ym maes tyrbinau gwynt - a ddewiswyd o blith dros 660 ymgeisydd yn dilyn proses ddethol drwyadl a barodd sawl mis - eu hyfforddiant ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ym mis Medi 2012.
I gael rhagor o wybodaeth am y prentisiaethau ym maes Tyrbinau Gwynt a gynigir yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.