Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arddangosfa Ffotograffiaeth yn Llwyddiant Ysgubol

Yn ddiweddar bu myfyrwyr FdA Ffotograffiaeth yn arddangos eu gwaith yn adeilad Coed Pella Cyngor Sir Conwy, mewn partneriaeth ag Oriel Colwyn.

Mae’r arddangosfa, o’r enw ‘Hybrid’, yn cynnwys gwaith gan 10 myfyriwr: Malcolm Roberts, Caitlin Millership, Rhiannon Williams, Hollie Williams, Raymond Dollery, Stephen Atmore, Rew Molloy, Anton Kirby, Jacob Williams a Carlos Ortiz Casallas.

Dywedodd y darlithydd Ffotograffiaeth, Tim Williams, “Rwy’n falch o lwyddiant ac amrywiaeth y cwrs hwn – mae’n wych gweld y myfyrwyr yn cyflawni eu huchelgeisiau, a rhoi’r arddangosfa wych hon at ei gilydd yn llwyddiannus”.

Ychwanegodd,
“Mae’r myfyrwyr wedi trefnu’r arddangosfa gyfan o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys hyrwyddo’r arddangosfa ac archebu’r lleoliad, yn union fel y byddai angen iddyn nhw wneud ym myd y celfyddydau creadigol proffesiynol”.

Mae’r arddangosfa nawr i’w gweld yn Llyfrgell Bae Colwyn tan Mai 20fed 2023.

I gael gwybod rhagor am 'Hybrid', cliciwch yma.