Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru 2022 ar y Gweill

Disgwylir i Bencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru, a fydd yn para tridiau, ddychwelyd fis Chwefror 2022.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 22 a 24 Chwefror ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos ochr yn ochr â chystadlaethau Cogydd Cenedlaethol a Chogydd Ifanc Cymru.

Mae'r digwyddiad yn cynnwys cystadlaethau sy'n addas i bawb, faint bynnag o brofiad sydd ganddynt; bydd y tasgau’n amrywio o baratoi omledau i goginio gig oen, ac o dorri llysiau i greu'r cacennau bach gorau posibl. Yn ogystal, yn ystod y Pencampwriaethau, cynhelir y Brif Her Ryngwladol ac, am y tro cyntaf, Her Risotto Riso Gallo i Gogyddion Ifanc.

Yn arferol, mae'r cystadlaethau i gogyddion a dysgwyr blaen tŷ'n denu myfyrwyr o golegau ledled Cymru a Lloegr.

Prif noddwr y Pencampwriaethau, a drefnir gan Gymdeithas Coginio Cymru, yw Bwyd a Diod Cymru, adran yng Nghynulliad Llywodraeth Cymru sy'n cynrychioli'r diwydiant bwyd a diod.

Ymhlith y noddwyr eraill, mae Grŵp Llandrillo Menai, Castell Howell, Churchill, Major International, Riso Gallo, Dick Knives, MCS Tech Products, a Hybu Cig Cymru.

Cyhoeddir enillwyr y cystadlaethau mewn swper arbennig ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos nos Iau, 24 Chwefror.

Dywedodd llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Arwyn Watkins: "Mae Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru'n achlysur delfrydol i ddod â'r holl gystadlaethau coginio hyn ynghyd mewn un lleoliad.

"Ar ôl heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf, rydym yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad gwych i arddangos y doniau a'r sgiliau rhagorol sydd yn y diwydiant lletygarwch.

"Rwy'n falch iawn o'r cydweithio sy'n digwydd rhwng trefnwyr y cystadlaethau, y noddwyr a Grŵp Llandrillo Menai."

www.gllm.ac.uk