Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyrwyr a Staff Grwp Llandrillo Menai yn cyfrannu i gynhadledd Technoleg ar-lein y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ddiweddar bu rhai o staff y Coleg ar Banel Pwnc, Cynhadledd Technoleg ar-lein y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Nod y Gynhadledd oedd dangos y llwybrau gwahanol y gellid eu cymryd wrth astudio boed yn gyfleoedd academaidd, gradd prentisiaeth, swyddi yn ogystal â dangos mantais ac apêl y Gymraeg mewn swyddi o’r fath.

Cyfrannodd ein darlithwyr, Huw Hughes, Darlithydd Cyfrifiaduron Gwyddonol, Marc Jones, Darlithydd Peirianneg Drydanol a Sion Gravell, Rheolwr Peirianneg i’r gynhadledd.

Hefyd, roedd dau gyn-fyfyrwyr o’r Grŵp yn siaradwyr gwadd, sef , Ceri Mai, cyn fyfyriwr Cyfrifiadureg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor sydd yn Brentis Gradd Seiberddiogelwch, Cyngor Gwynedd a Siwan Owen, cyn fyfyriwr Celf yng Ngholeg Menai, sydd bellach yn Reolwr Datblygu Cyswllt, Electronic Arts.

Dywedodd Huw Hughes, Darlithydd Cyfrifiaduron Gwyddonol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau.

“Siaradwyr ysbrydoledig a brwdfrydig mewn amrywiaeth o rolau gan roi cipolwg ar yr hyn maen nhw'n ei wneud bob dydd. Gan obeithio bod hyn wedi gyrru myfyrwyr tuag at eu dyfodol dewisol, naill ai fel prentisiaid neu yn eu hastudiaethau academaidd"

Dywedodd Sara Davies, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

”Braf oedd gweld fod cymaint o fyfyrwyr y Grŵp wedi manteisio ar y cyfle i ymuno er mwyn dod i wybod mwy am yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael a’r cyfle, bob amser, i ddefnyddio’r Gymraeg”.

Mae modd ail wrando ar y Gynhadledd Dechnoleg ar–lein ar dudalen Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol YMA