Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Grŵp yn sicrhau hawliau digidol dysgwyr a staff yn ystod y pandemig

Mae’r Grŵp wedi cymryd camau breision i gefnogi dysgwyr â’u hanghenion digidol. Rydym wedi gweithio'n ddiflino dros y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau bod yr amgylchedd dysgu ar-lein a gwasanaethau cymorth o bell i fyfyrwyr mor ddeniadol a hygyrch â phosibl.

Mae ein Datganiad Hawl Digidol Dysgwyr a Staff sydd newydd ei lansio yn amlinellu ein hymrwymiad i sicrhau bod dysgwyr a staff yn gallu cyrchu’r adnoddau digidol sydd eu hangen i gyrraedd eu potensial wrth astudio neu weithio gyda ni. Mae’r datganiad yn amlinellu ymagwedd y Grŵp at hawl digidol dysgwyr, sef cael y mynediad, y sgiliau a’r cymhelliant i fynd ar-lein yn hyderus i gyflawni mewn addysg. Mae’r datganiad yn manylu ar ystod o fentrau y mae’r coleg wedi’u defnyddio i roi cymorth digidol i ddysgwyr sy’n ymgymryd â’u hastudiaethau a staff sy’n cyflwyno rhaglenni a gwasanaethau.

Mae mwy o elfennau o fywyd coleg yn dod yn ‘ddigidol yn ddiofyn’ yn y disgwyliad y bydd dysgwyr yn mynd ar-lein fwyfwy i gyfathrebu, i gael gwybodaeth am eu cyrsiau, ac i gael mynediad at gymorth. Mae'r trawsnewid hwn yn cynnig gwasanaeth mwy sythweledol, hygyrch ac ymatebol i ddysgwyr. Fodd bynnag, mae cyflwyno cyrsiau ar-lein a gwasanaethau cymorth yn llwyddiannus yn dibynnu ar allu dysgwyr i gael mynediad iddynt a rhyngweithio â nhw mewn ffyrdd sy'n addas i'w hanghenion. Mae’r ddibyniaeth gynyddol ar dechnoleg ddigidol nid yn unig yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr allu cysylltu â’r rhyngrwyd a chael mynediad at ddyfeisiau priodol, ond mae hefyd yn golygu bod angen iddynt ddefnyddio sgiliau digidol penodol er mwyn mynd ar-lein a chymryd rhan yn eu cyrsiau.

Mae defnydd y Grŵp o e-adnoddau wedi cynyddu o ychydig llai na 20,000 yn 2015-16 i 204,000 yn 2020/21. Nid yn unig dyma'r defnyddiwr mwyaf o e-lyfrau o blith holl golegau Addysg Bellach Cymru, ond mae hefyd ymhlith yr uchaf yn y DU.

Mae’r Grŵp wedi elwa ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dyfeisiau digidol a MiFis ar gael i ddysgwyr er mwyn galluogi dysgu o bell a hunan-astudio (mae MiFis yn caniatáu rhannu cysylltiadau band eang symudol â dyfeisiau lluosog ar yr un pryd). Mae dros 1,000 o Chromebooks wedi'u benthyca i ddysgwyr ym mhob un o'r ddwy flynedd academaidd ddiwethaf.

Mae darpariaeth cymorth TG digidol i staff a dysgwyr gan y timau llyfrgell, yn ogystal â gwarantu mynediad i e-adnoddau a sgiliau astudio, wedi cael ei gydnabod yn ddiweddar: dyfarnwyd cydradd ail safle i dîm Llyfrgell a Thechnoleg Dysgu Grŵp Llandrillo Menai yng ngwobrau Tîm y Flwyddyn Llyfrgelloedd Cymru ym mis Tachwedd 2021. Rhoddir y wobr gan Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol Llyfrgell a Gwybodaeth a'i noddi gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “‘Rwy’n falch iawn bod Grŵp Llandrillo Menai bellach yn gallu lansio ei strategaeth hawliau digidol newydd ar gyfer dysgwyr a staff. Mewn cyfnod lle mae Covid wedi newid y ffordd yr ydym yn darparu addysg, mae’r ddogfen hon yn amlinellu’n glir sut y bydd y Grŵp yn cefnogi ei ddysgwyr a’i staff i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth yn ddigidol er mwyn hwyluso dilyniant gyrfa.”