Cyn-fyfyrwraig yn Cyhoeddi ei Llyfr Cyntaf!
Mae cyn-fyfyrwraig Celf a Dylunio newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf.
Mae Connie Mabbott, a fu'n astudio Celf a Dylunio ym Mharc Menai rhwng 2010 a 2012, wedi cyhoeddi ei llyfr cyntaf sef ‘Customising Clothes with Embroidery’.
Mewn sesiynau gyda'i thiwtor Soo Rees-Jones yng Ngholeg Menai, sylweddolodd Connie ei bod wrth ei bodd â gwaith tecstil a brodwaith.
Aeth Connie yn ei blaen i astudio Dylunio Tecstilau ym Mhrifysgol Dinas Birmingham ac erbyn hyn mae hi wedi sefydlu ei busnes brodwaith ei hun 'Connie's World' ac yn gweithio fel Cynorthwyydd Brodwaith Priodasol yn y Couture Company yn Birmingham.
Mae ‘Customising Clothes with Embroidery’ yn addysgu ac yn dangos i'r darllenydd sut i roi bywyd newydd i ddillad yn defnyddio brodwaith rhydd. Mae'r llyfr ar gael i'w brynu ar wefan y cyhoeddwyr, 'Pen and Sword'.
Dywedodd Connie,
"Dw i'n gobeithio y bydd y llyfr yn annog pobl i ddefnyddio'r hyn sydd ganddyn nhw'n barod - ailddefnyddio, ac yn eu hysbrydoli i feddwl am eu dyluniadau eu hunain yn defnyddio'r technegau dw i wedi'u cynnwys. Mae'r cyfan yn defnyddio brodwaith rhydd ar beiriant gwnïo arferol ac yn sgil eithaf anodd. Mae'n dechrau gyda syniadau syml iawn i ddechreuwyr ac yna'n mynd ymlaen i drafod rhai llawer mwy cymhleth gyda phrosiectau manwl iawn erbyn y diwedd. Mae hyn yn golygu bod rhywbeth i bawb roi cynnig arni, waeth beth fo lefel eu gallu!"
Dywedodd Paul Edwards, Rheolwr Maes Rhaglen y Celfyddydau Creadigol,
"Rydym i gyd yn falch iawn o lwyddiant diweddar Connie! Mae'n ardderchog gweld cyn-fyfyrwyr Parc Menai yn rhagori yn y diwydaint."
Cewch ragor o wybodaeth am Lint and Thread yma.
Cewch weld a phrynu llyfr Connie, ‘Customising Clothes with Embroidery’, yma.