Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Seamus, y codwr pwysau, yn ennill medal efydd Pencampwriaeth Prydain

Daeth Seamus Thomas, myfyriwr o Goleg Llandrillo, yn drydydd ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Grŵp Oedran Prydain yn Leeds.

Enillodd Seamus efydd yn y categori 67 cilogram i ddynion dan 17 yn Leeds, lle'r oedd yn erbyn dau o gystadleuwyr rhyngwladol Prydain Fawr.

Cododd 72kg yn y cipio, a 97kg yn y "clean and jerk" gan roi cyfanswm o 169kg - dros ddwywaith pwysau ei gorff o 66.7kg.

Mae'r bachgen 17 oed, sy’n hyfforddi yn Diamond Weightlifting yn ei dref enedigol, Llandudno, yn bencampwr dan 17 Cymru yn y 67kg.

Mae Seamus wedi bod yn codi pwysau ers pum mlynedd a hanner, a disgrifiodd dod yn drydydd yn Leeds fel ei gamp fwyaf eto.

“Dyma’r drydedd gystadleuaeth Brydeinig i mi fod ynddi, ac ym mhob cystadleuaeth rydw i wedi gwella,” meddai Seamus, sy’n astudio Chwaraeon (Hyfforddi, Datblygu a Ffitrwydd) Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.

“Roedd yn un o’r cystadlaethau anoddaf i mi fod ynddi oherwydd roeddwn yn cystadlu yn erbyn dau athletwr proffesiynol sy’n cynrychioli Prydain Fawr.

“Rhoddodd gyfle i mi brofi i bobl yr hyn y gallaf ei wneud yn y gamp. Roedd yn brofiad enfawr, a hwn oedd y profiad gorau i mi ei gael yn y gystadleuaeth o bell ffordd oherwydd y bobl roeddwn i’n cystadlu yn eu herbyn. Roeddwn hefyd yn gallu cymharu fy hun â phobl o'r un oedran a'r un pwysau a fi, a gweld lle gallwn i fynd gyda’r gamp os byddaf yn parhau i ymarfer yn galed.”

Diolchodd Seamus i’w hyfforddwr Nia Roberts am ei chefnogaeth, yn ogystal â staff a myfyrwyr Coleg Llandrillo, gan ddweud: “Fyddwn i ddim wedi gallu mynd i mewn i’r gystadleuaeth yma, na chael y cyfle yma heb Nia, fy hyfforddwr.

“Mae'r coleg wedi rhoi llawer o gefnogaeth i mi gyda chodi pwysau. Mae cael mynediad i'r gampfa yn golygu y gallaf hyfforddi yn ystod y dydd os na allaf hyfforddi ar ôl coleg.

“Mae’r tiwtoriaid i gyd wedi bod yn gefnogol iawn, yn fy nghefnogi yn yr holl gystadlaethau ac yn dymuno pob lwc i mi. Hefyd mae’r holl fyfyrwyr wedi bod yn fy helpu i gadw at fy hyfforddi a’m diet!”

Dywedodd Matthew Morris, Cydlynydd Cwrs Chwaraeon (Hyfforddi, Datblygiad a Ffitrwydd) Lefel 3: ⁠ “Yn ddiweddar mae Seamus wedi symud ymlaen i Chwaraeon (Hyfforddi, Datblygiad a Ffitrwydd) Lefel 3 ar ôl cwblhau ei gwrs Chwaraeon Lefel 2 (Perfformiad a Rhagoriaeth).

“Mae Seamus yn unigolyn gweithgar, ymroddedig a thalentog ac mae'n bleser ei gael yn yr ystafell ddosbarth.

“Mae’n rhagori yn ei astudiaethau ac yn rhoi’r wybodaeth y mae’n ei dysgu mewn modiwlau fel Anatomeg a Ffisioleg, a Hyfforddiant Ffitrwydd ar gyfer Iechyd, Chwaraeon a Lles, ar waith.

“Mae ei drydydd safle ym Mhencampwriaethau Prydain yn gamp wych a dymunwn yn dda iddo yng nghystadlaethau’r dyfodol.”

Mae lleoedd ar gael o hyd ar gwrs Chwaraeon (Hyfforddi, Datblygu a Ffitrwydd) Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. ⁠I gael rhagor o wybodaeth a gwybodaeth am sut i wneud cais, cliciwch yma.